Mae angen i ddatblygiadau newydd ganolbwyntio ar leoliadau cynaliadwy; ar lwybrau cludiant presennol a mynd i’r afael ag unrhyw oblygiadau a all eu hachosi. Bydd y CDLlN yn hyrwyddo dulliau mwy cynaliadwy o deithio fel annog lleihau defnydd ceir, cynyddu defnydd cludiant cyhoeddus a rhwydweithiau teithio llesol.