Pwrpas yr adran hon yn y CDLl ydi dynodi a sicrhau tir i ddiwallu anghenion y gymuned am ragor o swyddi a mwy o lewyrch economaidd a llai o allgymudo i weithio. Mae hefyd yn ceisio annog atgyfnerthu ac amrywio’r economi wledig lle bo hyn yn cyd-fynd â buddion yr economi leol, y gymuned a’r amgylchedd.