Mae defnyddio adnoddau naturiol yn effeithlon a'u gwarchod yn hanfodol ar gyfer ansawdd bywyd yn Ardal y Cynllun, ac i gefnogi amcanion cynaliadwyedd cymdeithasol ac economaidd ehangach. Er bod y maes yn eang ac y gall gynnwys cynlluniau o bwysigrwydd cenedlaethol, bydd ffocws hefyd ar gefnogi'r nod o arbed carbon a lleihau tlodi tanwydd ar lefel ddomestig.