Mae’r heriau ariannol sydd o’n blaenau yn golygu y bydd rhaid i ni wneud penderfyniadau anodd, ac rydym yn sylweddoli pa mor galed fydd hynny. Fe wnawn ni’n gorau i wneud penderfyniadau da a chanfod ffyrdd mwy effeithlon o weithio. Os na wnawn ni flaenoriaethu gwytnwch ariannol, ni fydd y Cyngor yn gallu cynnal y gwasanaethau hanfodol y mae ein cymunedau ac unigolion yn dibynnu arnynt. Bydd ein gallu i gyflawni ein Hamcanion Lles yn dibynnu ar ein llwyddiant yn y maes hwn.
Sut ddyfodol hoffem ni ei weld: Bydd y Cyngor yn gynaliadwy ac yn parhau i allu darparu gwasanaethau craidd i fodloni anghenion trigolion ac ymwelwyr.
I gefnogi’r nod hon, rhwng 2025 a 2027, byddwn yn cyflawni’r camau gweithredu a glustnodwyd yn Strategaeth Gwytnwch Conwy, sy’n cynnwys:
content
Sefydlu prosesau cynllunio ariannol, rheolyddion gwariant a gweithdrefnau cyllidebol cadarn er mwyn bodloni heriau ariannol yn y tymor byr, canolig a hir. Mae hyn yn cynnwys edrych ar wytnwch ysgolion a’r cymorth y maent yn ei dderbyn drwy’r fformiwla gyllido leol. Byddwn yn adolygu’r gwasanaethau rydym yn eu comisiynu ac yn eu caffael yn rheolaidd er mwyn sicrhau ein bod yn darparu’r canlyniad gorau ar gyfer y bobl leol a gwerth am arian.
content
Ceisio atebion arloesol a fforddiadwy i drawsnewid gwasanaethau’n ddigidol, fel eu bod yn rhatach i’w rhedeg, yn gyflymach i’w prosesu, neu’n symlach (a hynny gan ofalu peidio ag eithrio unigolion yn ddigidol).
content
Sicrhau bod ein portffolio asedau’n gynaliadwy, gan adolygu ein hasedau dros ben er mwyn eu hailddefnyddio neu eu gwaredu.
content
Adolygu ein prosesau busnes er mwyn sicrhau bod y strwythurau darparu yn cael eu symleiddio a’u bod yn briodol ar gyfer anghenion y cwsmeriaid a’r busnes. Mae hyn yn cynnwys edrych ar fodelau darparu gwasanaeth
amgen, a chydweithio â mentrau cymdeithasol a grwpiau cymunedol.
content
Cyflawni’r camau gweithredu a glustnodwyd yn ein Strategaeth Pobl a gweithredu ar wybodaeth gadarn i sicrhau bod gennym ni’r aelodau staff cywir yn y swyddi cywir; ein bod yn gwrando arnynt; ein bod yn cefnogi eu lles; a’u bod yn gallu datblygu’n broffesiynol a darparu gwasanaethau o ansawdd uchel.
Bydd ein gwaith ar gyflawni’r ymrwymiadau hyn yn cyfrannu’n uniongyrchol i ddilyn y Nodau Lles Cenedlaethol canlynol:
- Cymru lewyrchus
- Cymru iachach
- Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu
- Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang
Nesaf: Nod hirdymol 2
Blaenorol: Egwyddorion darparu