Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 Llywodraeth Cymru wedi creu cyfres o ganlyniadau cenedlaethol a gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i roi datblygu cynaliadwy wrth wraidd eu penderfyniadau. Dylai ystyried effeithiau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd ein penderfyniadau fod yn egwyddor ganolog i’n sefydliad.
Mae’r nodau a gyhoeddwyd o fewn y Cynllun Corfforaethol hwn yn adlewyrchu rhwymedigaeth y Cyngor dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 i gyhoeddi Amcanion Lles.
content
Bydd ein Hamcanion Lles yn cyfrannu at gyflawniad pob un o Nodau Lles Llywodraeth Cymru. Drwy ddatblygu ein hymrwymiadau o fewn y cynllun, rydym wedi myfyrio ar y pum ffordd o weithio, gan ganolbwyntio ar atal, effaith tymor hwy, integreiddio ag amcanion partner, cydweithio a chynnwys ein cymunedau. Roedd y cymunedau’n rhan fawr o ddatblygu canlyniadau’r dinesydd, a bydd y Cyngor yn parhau i gynnwys cymunedau yn y dyfodol, er mwyn meithrin ymdeimlad o berchenogaeth am ein nodau sy’n canolbwyntio ar y dinasyddion.
Rhaid peidio ag ystyried ein Hamcanion Lles ar eu pennau eu hunain, gan fod angen ystyried themâu trawsbynciol. Golyga hyn ei bod yn bwysig i ni asesu ein camau gweithredu a’n penderfyniadau er mwyn sicrhau eu bod yn cael effaith gadarnhaol ar faterion fel trechu tlodi, amrywiaeth, tegwch a chynhwysiant (DEI), a hyrwyddo’r Gymraeg. Ni ellir crynhoi tlodi a DEI mewn un neu ddau o gamau gweithredu neu fesurau yn unig, a bwriad y nodau a ddewiswyd ar y cyd yw ceisio cael effaith gadarnhaol ar fynd i’r afael â’r meysydd hanfodol hyn drwy wella addysg, tai, iechyd, diogelwch, cyfleoedd gwaith, effaith amgylcheddol, lles a theimlad o degwch a pherthyn.
Bwriedir i’r nodau a amlinellir yn y Cynllun Corfforaethol fod yn rai hirdymor, ac ni fyddant i gyd yn cael eu cyflawni o fewn cyfnod y cynllun. Nid ydynt chwaith yn bethau sy’n gyfan gwbl o fewn ein rheolaeth, ac ni allwn eu cyflawni ar ein pennau ein hunain. Er hynny, ein gobaith yw cyflawni gwelliant yn y meysydd pwysig hyn yn ystod gweinyddiaeth bresennol y Cyngor, sy’n dod i ben yn 2027. Byddwn yn adolygu ymrwymiadau ein Cynllun Corfforaethol a’n cynnydd bob blwyddyn drwy gyfrwng ein proses Hunanasesu. Bydd unrhyw newidiadau’n cael eu cynnwys yn ein hadroddiadau diwedd chwe mis
content
Fel y nodwyd, mae ein cynlluniau gwasanaeth a sawl strategaeth allweddol yn sail i’r Cynllun Corfforaethol, ac mae’r rhain yn bwydo i fframwaith perfformiad y Cynllun. Mae’r fframwaith yn dethol o’r cynlluniau a’r strategaethau hyn y mesurau perfformiad a’r gweithgareddau sy’n crynhoi orau ein cyfraniad i’r Cynllun Corfforaethol a chyflawniad yr ymrwymiadau rydym wedi’u gwneud o’i fewn. O’u hystyried yn eu cyfanrwydd, dylai’r cynnydd y byddwn yn ei ddangos o’i gymharu â’r mesurau hyn a’r buddion y byddwn yn eu darparu o’n gweithgarwch ategol, ddangos cyfraniad y Cyngor tuag at gyflawni’r nodau hirdymor rydym wedi’u gosod. Unwaith eto, rhaid pwysleisio na allwn gyflawni’r nodau ar ein pennau ein hunain ac rydym yn egluro na fydd y nodau hirdymor hyn o reidrwydd yn cael eu cyflawni o fewn oes un Cynllun Corfforaethol.
Byddwn yn adolygu ac yn asesu ein perfformiad yn erbyn y Cynllun Corfforaethol bob chwe mis drwy ein hadroddiadau Hunanasesu Perfformiad, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Bydd yr adroddiadau Hunanasesu yn cael eu cyflwyno’n rheolaidd i’r Uwch Dîm Rheoli, y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu a’r Cabinet, ac yn flynyddol i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ac i’r Cyngor i’w cymeradwyo. Byddant yn cael eu cyhoeddi ar www.conwy.gov.uk/perfformiad cyn gynted ag y bo’n bosib.
Byddwn hefyd yn cynnal adolygiad perfformiad blynyddol o ddarpariaeth y gwasanaethau o’i gymharu â’r cynllun, gan geisio cynnig cymorth a her, ac yn asesu ein cynnydd o ran cyflawni’r Amcanion Lles, blaenoriaethau’r gwasanaethau, y risgiau allweddol, y mesurau perfformiad, ein cyflawniadau a’r meysydd y mae angen eu gwella.
Mae dyletswydd arnom hefyd i ymgynghori ag amrywiaeth o bobl (ymgyngoreion statudol) bob blwyddyn ariannol i drafod sut rydym wedi bodloni ein gofynion perfformiad. Rydym yn awyddus i sicrhau bod y wybodaeth hon yn cael ei chyfleu yn ein fframwaith wrth symud ymlaen.
content
Yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010 a Rheoliadau Dyletswyddau Statudol (Cymru) 2011, mae gan y Cyngor Gynllun Cydraddoldeb Strategol (o’r enw ‘Conwy Gynhwysol’), Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth a Pholisi Asesiad o Effaith ar Gydraddoldeb. Cynhaliwyd Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb ar gyfer y Cynllun Corfforaethol hwn (gan gynnwys y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol a gofynion asesu effaith integredig eraill). Yn ogystal â hynny, mae sgriniad Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb neu Asesiadau llawn o’r Effaith ar Gydraddoldeb wedi cael eu cynnal ar gamau gweithredu o fewn y Cynllun lle bo’n briodol.
content
Mae ein Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (SATC) yn nodi’r dull strategol o reoli ein cyllid ac yn ceisio rhagweld rhai o’r problemau ariannol y byddwn yn eu hwynebu dros gyfnod pum mlynedd y weinyddiaeth wleidyddol. O gofio’r hinsawdd economaidd sydd ohoni, mae’n debygol iawn y bydd rhagolygon o’r fath yn amrywio.
Nod y SATC yw darparu strategaeth ariannol i gefnogi ystyriaethau cynllunio ar gyfer y tymor canolig. Mae angen gwneud hyn er mwyn sicrhau bod y gyllideb yn paratoi’r Cyngor ar gyfer y cyfnod sydd i ddod yn hytrach na dim ond ceisio cydbwyso’r problemau flwyddyn ar y tro.
Ni all y SATC fodoli ar ei phen ei hun. Mae costau’r Cyngor yn seiliedig ar amrywiaeth o ofynion darparu gwasanaeth a chyfrifoldebau statudol sydd angen adnoddau ac y mae’n rhaid eu cyflawni, sy’n seiliedig ar anghenion demograffig y sir. Felly, mae cysylltiadau cryf rhwng y SATC a chyfeiriad strategol y Cyngor fel yr amlinellir yn y Cynllun Corfforaethol 2022 i 2027.
Bydd yr elfennau allweddol sy’n llunio’r SATC yn cael eu hadolygu’n flynyddol. Mae’r SATC yn adnodd allweddol ar gyfer rheolaeth ariannol ragweithiol, a bydd yn sail ar gyfer y broses bennu cyllideb flynyddol er mwyn sicrhau bod anghenion adnoddau’r Cyngor yn canolbwyntio ar y blaenoriaethau cywir, a’u bod yn caniatáu i ofynion a materion cyllido a ragwelir yn y dyfodol gael eu clustnodi ddigon ymlaen llaw er mwyn cymryd camau priodol.
Mae’r goblygiadau o ran adnoddau sy’n sail i’r Cynllun Corfforaethol yn cynnwys mewnbwn sy’n amrywio o gapasiti swyddogion i geisio cyllid allanol sylweddol i helpu cyflawni canlyniadau’r dinesydd dros gyfnod y cynllun. Nid yw’r Cynllun Corfforaethol yn golygu y byddwn yn symud cyllid oddi wrth ein cyfrifoldebau cyfreithiol i ganolbwyntio ar ganlyniadau’r cynllun yn unig. Rhaid ystyried pob blaenoriaeth ar sail yr adnoddau sydd ar gael i ni a’r ffaith anochel na fydd ein gallu i wario yn cyd-fynd â’n dyhead i fod yn uchelgeisiol a gwella.
Nesaf: Egwyddorion darparu
Blaenorol: Sut y datblygwyd y cynllun hwn