Mae’r Cynllun Corfforaethol wedi cael ei ddatblygu o ganlyniad i sgwrs barhaus gyda’r cymunedau.
Yn 2016, bu i ni lansio “Sgwrs y Sir” er mwyn casglu barn mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau ymgysylltu ac ymgynghori. Dros y blynyddoedd, rydym wedi cynnal digwyddiadau ymgysylltu rheolaidd ar amrywiaeth o bynciau a datblygiadau gwasanaeth, er mwyn cynnwys ein cymunedau wrth lunio ein datblygiadau.
content
Yn sgil cyfyngiadau Covid-19, ym mis Medi 2021 bu’n rhaid i ni addasu ein dull o ymgynghori a chynnal cyfres o weithdai ar-lein i drafod syniadau ar gyfer y Cynllun Corfforaethol yn benodol. Bu i ni gynnal trafodaeth ryngweithiol ranbarthol gyda thimau Cydlyniant Rhanbarthol y Gogledd Orllewin a’r Gogledd Ddwyrain a Rhwydwaith Cyd-gynhyrchu Cymru, dan y teitl ‘Lleisiau Cymunedol’. Nod y sesiwn hon oedd ymgysylltu â phobl lle gallai iaith, diwylliant, neu wahaniaethau cymdeithasol neu gorfforol achosi rhwystrau i gael eu clywed yn effeithiol, ac mae wedi llunio rhan o Asesiad Lles Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych, sydd wedi llywio’r cynllun hwn. Bu i 43 o gynrychiolwyr o grwpiau na chlywir ganddynt yn aml gymryd rhan yn y drafodaeth hon. Bu i ni hefyd gysylltu â grwpiau a rhwydweithiau lleol sy’n arbenigo mewn cefnogi pobl gyda nam ar y synhwyrau, er mwyn sicrhau bod eu lleisiau nhw’n cael eu cynnwys, yn ogystal â chydweithio â fforwm ieuenctid lleol i geisio eu barn. Yn ogystal â’r sesiynau hyn, bu i ni gynnal arolwg i geisio barn pobl.
Aethom ati i fyfyrio ar yr holl adborth hwn er mwyn datblygu ein Cynllun Corfforaethol ar gyfer y cyfnod rhwng 2022 a 2027. Cafodd ei gymeradwyo gan y Cyngor ym mis Mawrth 2022 fel drafft ar gyfer ymgynghoriad ehangach gyda’r cymunedau ac aelodau etholedig newydd. Yna, diwygiwyd y cynllun drafft yn unol ag adborth pellach gan y gymuned a’r aelodau etholedig, cyn cael ei gymeradwyo’n derfynol gan y Cyngor ym mis Hydref 2022. Cytunwyd y byddai’n cael ei adolygu drwy gydol y pum mlynedd er mwyn adlewyrchu newidiadau mewn meysydd ffocws a’r sefyllfa ariannol.
Fodd bynnag, gan fod amgylchedd ariannol y sector cyhoeddus wedi gwaethygu, cynhaliwyd trafodaethau unwaith eto gyda’r uwch reolwyr a’r Cynghorwyr yn 2024 er mwyn ad-drefnu ein Cynllun Corfforaethol, gan ganolbwyntio ar yr uchelgeisiau hynny sy’n parhau i fod yn bwysig i’n cymunedau. Canlyniad hyn oedd cwtogi’r naw o nodau sy’n canolbwyntio ar y dinesydd i bump, gan greu gwell cydberthynas rhwng y canlyniadau a ddymunir ac ategu ambell i egwyddor sylfaenol allweddol o ran ein ffyrdd o weithio fel Cyngor.
Rydym yn awyddus i barhau â’r drafodaeth hon a hoffem glywed eich syniadau chi am sut y gellir gwella’r gwasanaethau. Byddwn yn parhau i ddefnyddio Sgwrs y Sir fel ffordd i chi rannu syniadau, a byddwn yn parhau i wahodd barn y gymuned ar ddatblygiadau i’r gwasanaethau. Byddem yn falch o glywed eich sylwadau neu awgrymiadau am welliannau unrhyw adeg o’r flwyddyn, felly mae croeso i chi gysylltu â ni.
content
Rydym wedi ad-drefnu nifer y nodau sydd yn y cynllun hwn i bump, gan gydnabod bod y naw a nodwyd yn flaenorol yn uchelgeisiol iawn ac yn rhy eang eu ffocws. Fodd bynnag, nid yw’r ddogfen hon yn wyriad dramatig o’r Amcanion Lles a bennwyd yn 2022, a dylid ystyried ei fod yn mireinio’r hyn rydym ni eisoes wedi’i ddweud y byddem yn ceisio ei ddarparu. Yn y bôn, rydym wedi ceisio cryfhau’r cynllun fel dogfen strategol lefel uchel, gan gymryd cam yn ôl o’r manylion gor-weithredol. Rydym hefyd wedi cymryd gofal i adolygu geiriad ein hymrwymiadau er mwyn eu gwneud yn fwy cyfoes, gan fod yn ochelgar iawn o newid posib yn y dyfodol yn sgil pwysau cyllidebol. Mae’n gydbwysedd anodd ei gyrraedd gan fod angen cadw llygad ar yr hyn sydd wir yn bwysig o hyd, ond gobeithio bod y ddogfen hon yn cyflawni hynny.
Rydym wedi cadw ein canlyniadau hirdymor o ran yr amgylchedd a thai. Rydym hefyd wedi cadw ein ffocws ar ffyniant economaidd ac addysg; ond gan gydnabod y gydberthynas gref rhwng y ddau faes gwaith pwysig hyn, rydym wedi eu huno dan un thema. Yn yr un modd, rydym wedi cadw ein huchelgais ar gyfer Conwy iach; ond, unwaith eto, gan gydnabod y gydberthynas amlwg rhyngddynt, rydym wedi cynnwys y gwaith pwysig rydym yn ei wneud i hyrwyddo diogelwch a diogelu a oedd gynt yn ganlyniadau ar wahân. Ein canlyniad mewn perthynas â gwytnwch sydd wedi newid fwyaf, gyda mwy o ffocws ar yr heriau ariannol rydym yn eu hwynebu fel sefydliad. Mae’r canlyniad hwn hefyd wedi’i ddyrchafu er mwyn pwysleisio ei bwysigrwydd, gan gydnabod bod rhaid i ni wneud pethau’n iawn er mwyn gallu cyflawni ein hymrwymiadau dan y pedwar nod arall. Yn olaf, rydym wedi penderfynu nad yw’n briodol bellach i ni drin y Gymraeg ac Amrywiaeth, Tegwch a Chynhwysiant fel canlyniadau gyda chyfyngiad amser. O ddyrchafu’r rhain i fod yn egwyddorion sylfaenol rydym yn gweithio tuag atynt, gyda’u strategaethau a’u mecanweithiau adrodd eu hunain yn sylfaen iddynt, dylem allu codi proffil y ddau fater pwysig hyn, nad ydynt bellach yn cael eu trin ar eu pen eu hunain. Rydym hefyd wedi cynnwys ein ffordd o weithio gyda’n cymunedau fel egwyddor a ddylai fod yn sylfaen i bopeth a wnawn
Nesaf: Datganiad lles
Blaenorol: Cyflwyniad a chyd-destun ariannol