Newid Hinsawdd yw’r broblem sy’n diffinio ein cyfnod a dyma’r bygythiad mwyaf i’n lles, yn fyd-eang ac yn lleol. Bydd yn rhoi pwysau ar ecosystemau, isadeiledd a thirwedd ac yn bygwth lles cenedlaethau presennol a rhai’r dyfodol. Byddwn yn arwain drwy esiampl drwy leihau ein hallyriadau carbon a chynyddu ein gwytnwch amgylcheddol i ddelio ag effeithiau Newid Hinsawdd. Byddwn yn cydweithio â thrigolion, cymunedau, partneriaid a busnesau i newid ymddygiad fel bod pawb yn gwneud ei ran.
Sut ddyfodol hoffem ni ei weld: Bydd ein gweithredoedd wedi arafu’r newid yn yr hinsawdd ac wedi diogelu’r amgylchedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
I gefnogi’r nod hon, rhwng 2025 a 2027, byddwn yn gwneud y canlynol:
content
Cyflawni ein Cynllun Sero Net, gan ymateb i’r argyfwng hinsawdd rydym wedi’i ddatgan fel cyngor.
content
Cyflawni Cynllun y Ddyletswydd Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau i ymateb i’r Argyfwng Natur, gan gydweithio â phartneriaid gwledig a threfol.
content
Gweithio i amddiffyn trigolion a chartrefi rhag llifogydd drwy ein Strategaeth Leol Rheoli Risg Llifogydd, a chydweithio â phartneriaid i amddiffyn ein traethlin rhag erydiad.
content
Parhau i gyflawni camau gweithredu i gefnogi ailgylchu a strategaeth Llywodraeth Cymru, Tuag at Ddyfodol Diwastraff.
content
Cefnogi cynlluniau ynni adnewyddadwy a chyflawni ein Cynllun Ynni Ardal Leol.
content
Cefnogi gwytnwch amgylcheddol drwy’r polisïau a’r arferion y byddwn yn eu mabwysiadu dan ein Cynlluniau Datblygu Lleol.
content
Cydweithio â’n partneriaid drwy’r Cynllun Cludiant Rhanbarthol i ddarparu isadeiledd teithio sy’n ddiogel, yn hygyrch ac yn cefnogi lles (mae hyn yn cynnwys Teithio Llesol).
content
Byddwn yn gweithio gyda’n cymunedau i ddarparu mannau deniadol, glân a chynaliadwy, gan gyfrannu hefyd at dwristiaeth a lles.
Bydd ein gwaith ar gyflawni’r ymrwymiadau hyn yn cyfrannu’n uniongyrchol i ddilyn y Nodau Lles Cenedlaethol canlynol:
- Cymru lewyrchus
- Cymru gydnerth
- Cymru iachach
- Cymru o gymunedau cydlynus
Nesaf: Nod hirdymor 3
Blaenorol: Nod hirdymor 1