Mae Cynllun Corfforaethol 2022 i 2027 yn cydnabod y bydd cyfnodau anodd o’n blaenau, ac y bydd ein nodau (neu ‘ganlyniadau'r dinesydd’) yn cael eu hadolygu’n rheolaidd yn sgil cynnydd mewn costau a’r galw am wasanaethau sy’n wynebu pob Cyngor. Mae’r pwysau hyn wedi’u sbarduno gan yr argyfwng costau byw, prisiau tanwydd ac ynni, cynnydd mewn cyfraddau llog ac effaith barhaus y pandemig.
Rydym bellach yn cyflwyno ein Cynllun Corfforaethol diwygiedig ar gyfer y cyfnod rhwng 2025 a 2027. Er ein bod wedi gwneud newidiadau i adlewyrchu ein cyllidebau llai, mae’r cynllun hwn yn parhau i adlewyrchu ein hymrwymiad i ddarparu gwasanaethau o’r radd flaenaf i’r rheiny sydd eu hangen fwyaf, ac i gynnig cefnogaeth i’n cymuned, er gwaetha’r pwysau economaidd sy’n ein hwynebu. Rydym wedi adolygu ein nodau’n ofalus i sicrhau ein bod yn parhau i ddiwallu anghenion ein trigolion mwyaf diamddiffyn, a hynny gan gynnal cyfrifoldeb ariannol ar yr un pryd.
Mae ein cynllun diwygiedig yn rhoi gwytnwch ariannol wrth wraidd popeth ac yn amlinellu llwybr clir ymlaen, gan ganolbwyntio ar arloesi, effeithlonrwydd a chydweithio i oroesi’r cyfnod heriol hwn ac er mwyn i ni allu meithrin dyfodol cynaliadwy ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Fodd bynnag, gyda thua 70% o’n cyllid yn dod o ffynonellau allanol, nid yw ein gwytnwch ariannol yn llwyr o fewn ein rheolaeth, ac mae’n bosib y bydd angen i ni wneud penderfyniadau anodd iawn a blaenoriaethu rhai meysydd dros eraill, hyd yn oed yn ystod cyfnod y cynllun diwygiedig hwn.
Mae’n bwysig gwahaniaethu rhwng y gwasanaethau rydym yn eu darparu drwy ein cyllideb flynyddol a’r gwasanaethau hynny sy’n cael eu hariannu drwy grantiau allanol. Mae ‘gwasanaethau craidd’ fel rheoli gwastraff, gofal cymdeithasol ac addysg (ar y cyfan) yn cael eu hariannu o gyllideb flynyddol y Cyngor. Fodd bynnag, mae rhai gwasanaethau craidd a gwasanaethau fel cymorth ariannol i fusnesau lleol yn dibynnu’n helaeth ar grantiau allanol, fel y rhai sy’n disodli grantiau Cronfa Ffyniant Gyffredin a Ffyniant Bro Llywodraeth y DU. Yn yr un modd, mae prosiectau adeiladu mawr fel codi ysgolion newydd a chynlluniau amddiffyn rhag llifogydd angen cyllid sylweddol gan Lywodraeth Cymru. Mae’r grantiau sydd ar gael yn effeithio’r cymorth y gallwn ei gynnig mewn rhai meysydd, ac yn anffodus, mae wedi arwain at oedi sawl prosiect allweddol. Byddwn yn parhau i gydweithio â Llywodraethau Cymru a’r DU pan fo’n bosib, i sicrhau bod Conwy’n elwa ar unrhyw gyllid allanol sydd ar gael.