Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth gyfoethog Conwy ac yn credu ei bod yn hanfodol clywed a chydnabod llais pawb. Hoffem glywed gennych chi am yr hyn sy’n effeithio arnoch chi.
Ydi ein nodau hirdymor yn addas ar gyfer eich cymuned chi, ac ydym ni’n gwneud y pethau iawn? I gael rhagor o wybodaeth neu i rannu eich barn am unrhyw beth yn ein Cynllun Corfforaethol, cysylltwch â ni:
- E-bost: sgwrsysir@conwy.gov.uk
- Ffôn: 01492 574000. Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg a Saesneg. Gall cwsmeriaid Gwasanaeth BT Relay sydd â nam ar eu clyw neu eu lleferydd gysylltu ag unrhyw un o wasanaethau’r Cyngor drwy ddeialu 18001 cyn y rhif y maent ei angen.
- Iaith arwyddion: Gall defnyddwyr Iaith Arwyddion Prydain gysylltu â ni’n defnyddio dehonglydd Iaith Arwyddion drwy’r Gwasanaeth InterpretersLive! sy’n cael ei gynnig gan Sign Solutions.
- Post: Gwasanaeth Pobl a Pherfformiad, Tîm Perfformiad a Gwella, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Blwch Post 1, Bae Colwyn LL29 0GG.
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg a Saesneg. Ni fydd unrhyw oedi wrth ymateb i ohebiaeth a dderbynnir yn y naill iaith na’r llall.
Pobl ifanc
Pobl ifanc yw ein dyfodol ac fe hoffem glywed eich barn chi. Mae’r gwasanaethau sy’n gweithio gyda phobl ifanc eisiau gwrando a rhoi cyfle i chi leisio’ch barn. Mae Cyngor Ieuenctid Conwy yn rhoi llais a dewis i chi yn y penderfyniadau sy'n effeithio arnoch chi.
Os hoffech chi gymryd rhan, ewch i dudalen Facebook y Cyngor Ieuenctid neu i'n tudalen we y Gwasanaeth Ieuenctid, neu cysylltwch â ni:
- E-bost: gwasanaethieuenctid@conwy.gov.uk
- Ffôn: 01492 575100. Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg a Saesneg. Gall cwsmeriaid Gwasanaeth BT Relay sydd â nam ar eu clyw neu eu lleferydd gysylltu ag unrhyw un o wasanaethau’r Cyngor drwy ddeialu 18001 cyn y rhif y maent ei angen.
- Facebook ac Instagram: @GIConwyYS
Blaenorol: Crynodeb