Mae copi argraffadwy o'r crynodeb hwn ar gael i'w lawrlwytho (dogfen PDF).
Nod 1: Cyngor gwydn
Aneliad: Bydd y Cyngor yn gynaliadwy ac yn parhau i allu darparu gwasanaethau craidd i fodloni anghenion trigolion ac ymwelwyr. Byddwn yn gweithio ar y meysydd canlynol:
- Rheolaeth ariannol
- Gwasanaethau digidol
- Rheolaeth asedau
- Cwsmeriaid a democratiaeth
- Y gweithlu a deallusrwydd
Nod 2: Amgylchedd
Aneliad: Bydd ein gweithredoedd wedi arafu’r newid yn yr hinsawdd ac wedi diogelu’r amgylchedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Byddwn yn gweithio ar y meysydd canlynol:
- Argyfwng yr hinsawdd a natur
- Atal llifogydd
- Ailgylchu
- Ynni cynaliadwy
- Polisïau cynllunio
- Cludiant
- Mannau deniadol
Nod 3: Ffyniant a dysg
Aneliad: Bydd ein treftadaeth gyfoethog wedi’i diogelu er mwyn cefnogi lles cenedlaethau’r dyfodol. Byddwn wedi llwyddo i gadw talentau sy’n cefnogi twf ac yn rhoi Conwy wrth wraidd Economi Gogledd Cymru. Bydd ein plant yn ddysgwyr uchelgeisiol a medrus. Byddant yn unigolion iach a hyderus sy’n chwarae rhan weithgar yn y gymuned, gyda’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y cyfleoedd swyddi sydd ar gael. Byddwn yn gweithio ar y meysydd canlynol:
- Mynediad at addysg
- Cymryd rhan mewn dysgu a chyflogaeth
- Parod am waith
- Twf economaidd lleol
- Diwylliant
- Twristiaeth
- Polisïau cynllunio
- Adfywio
- Buddsoddiad
- Y Gymraeg
- Cyfleusterau addysg
Nod 4: Tai
Aneliad: Drwy ganolbwyntio ar ddull strategol, byddwn wedi creu cymunedau cynaliadwy y mae’r trigolion yn falch o’u galw’n gartref. Byddwn yn gweithio ar y meysydd canlynol:
- Strategaeth tai
- Tai newydd
- Tai fforddiadwy
- Eiddo gwag
- Atal digartrefedd
- Llety addas
- Rhestrau aros
- Byw’n annibynnol
Nod 5: Llesiant
Aneliad: Rydym eisiau creu amgylchedd lle mae diogelu’n gyfrifoldeb i bawb a lle nad oes unrhyw un yn cael eu niweidio. Byddwn yn galluogi pobl i fyw bywydau hirach, iachach a hapusach. Rydym eisiau i bobl allu gofalu amdanynt eu hunain, gwneud dewisiadau bywyd iach, a byw mor dda ag posib gyda phroblemau iechyd cronig. Byddwn wedi lleihau effeithiau niweidiol tlodi. Drwy gefnogi’r sector gofal, byddwn wedi sicrhau bod y gofal cywir ar gael pan fo’i angen, a’i fod yn bodloni anghenion poblogaeth demograffig newidiol Conwy. Byddwn yn gweithio ar y meysydd canlynol:
- Gofal cymdeithasol o ansawdd
- Diogelu
- Lles
- Gofalwyr
- Gwrthdlodi
- Diogelwch
- Gofal cynaliadwy
- Byw â chymorth
Nesaf: Rydym eisiau clywed eich barn chi
Blaenorol: Nod hirdymor 5