Mae’r Gymraeg yn rhan ohonom ac o bopeth a wnawn. Ein hiaith ni yw hi ac mae’n perthyn i bawb ohonom. Mae’n rhan o’n hanes, ein treftadaeth a’n diwylliant. Mewn cyfnod lle rydym i gyd yn wynebu llawer o heriau, fe all dathlu ac annog ein Llais Cymraeg ddod â ni ynghyd. Hoffem i bawb ymuno â ni, waeth faint o Gymraeg sydd gennych chi, o le rydych chi’n dod na lle rydych chi bellach yn byw yn sir Conwy.
Ein gweledigaeth yw Conwy ddwyieithog lle mae pobl yn hyderus ac yn falch o’u llais Cymraeg, lle caiff y Gymraeg ei siarad o fewn y teulu, y gymuned a’r gweithle, lle caiff diwylliant Cymru ei ddathlu a lle mae pobl yn teimlo eu bod yn perthyn.
Ein nod yw gosod esiampl o ran defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle ac wrth ddarparu ein gwasanaethau. Mae hyrwyddo’r Gymraeg hefyd yn ymwneud â’r teulu, y gymuned, ysgolion, busnesau, twristiaeth ac yn fwy na dim, mae’n ymwneud â phobl. Rhywbeth sy’n perthyn i bobl yw iaith, a nod y cynllun hwn yw helpu pobl i feithrin dealltwriaeth, ewyllys da a chariad, gobeithio, tuag at y Gymraeg a’i chyfraniad i ddiwylliant, cymdeithas ac economi Conwy.
Gobeithio y gwnewch chi ymuno â ni ar y daith tuag at filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Ydych chi’n un o filiwn? Os ydych chi’n siaradwr Cymraeg sy’n gallu sgwrsio yn Gymraeg ym mhob sefyllfa, rydym eich angen chi hefyd, i gefnogi eraill ac i helpu creu’r cyfleoedd lle gall y Gymraeg ffynnu. Yn ogystal â chynyddu’r nifer o bobl sy’n gallu siarad ychydig o Gymraeg, rydym eisiau i fwy o bobl siarad Cymraeg bob dydd. Rydym yn cefnogi hyn drwy gydweithio â phartneriaid a chlybiau lleol fel Menter Iaith Conwy, Urdd Conwy, Ffermwyr Ifanc, Mudiad Meithrin, Cymraeg i Blant, Coleg Llandrillo a Rhieni dros Addysg Gymraeg, ymysg eraill. Yn ogystal â chynllunwyr, addysgwyr a Chynghorwyr, mae’r rhain yn rhan o Fforwm Strategol y Gymraeg sydd wedi helpu llunio’r Strategaeth hon, a byddant yn ei chefnogi wrth symud ymlaen. Mae’r her sydd o’n blaenau yn un gyffrous, a thrwy osod gweledigaeth gadarn, rydym yn hyderus y gallwn gydweithio i hyrwyddo’r Gymraeg yn llwyddiannus yma yng Nghonwy. Amdani!
Ewch draw i dudalen lanio’r Gymraeg ac addysg i gael rhagor o wybodaeth am ein cynlluniau a’n strategaethau ategol, ac i weld pa cymorth sydd ar gael i ddysgu’r iaith.