Rydym eisiau cefnogi lles ein trigolion, gan hyrwyddo dewisiadau bywyd iach a mynd i’r afael ag effeithiau niweidiol tlodi. Byddwn yn canolbwyntio ein camau gweithredu ar gefnogi cynaliadwyedd y sector gofal ac yn cydweithio â’n partneriaid i ddarparu Gofal Cymdeithasol di-dor o ansawdd dda i’r bobl sydd ei angen. Byddwn yn sicrhau bod trigolion ac ymwelwyr i Gonwy yn ddiogel a bod pobl ddiamddiffyn yn cael eu diogelu.
Sut ddyfodol hoffem ni ei weld: Rydym eisiau creu amgylchedd lle mae diogelu’n gyfrifoldeb i bawb a lle nad oes unrhyw un yn cael eu niweidio. Byddwn yn galluogi pobl i fyw bywydau hirach, iachach a hapusach. Rydym eisiau i bobl allu gofalu amdanynt eu hunain, gwneud dewisiadau bywyd iach, a byw mor dda ag posib gyda phroblemau iechyd cronig. Byddwn wedi lleihau effeithiau niweidiol tlodi. Drwy gefnogi’r sector gofal, byddwn wedi sicrhau bod y gofal cywir ar gael pan fo’i angen, a’i fod yn bodloni anghenion poblogaeth demograffig newidiol Conwy.
InI gefnogi’r nod hon, rhwng 2025 a 2027, byddwn yn gwneud y canlynol:
content
Parhau i weithio gyda’n partneriaid i foderneiddio gofal cymdeithasol ac addysg, gan ddarparu gwasanaethau di-dor o ansawdd uchel sy’n bodloni anghenion ein demograffig newidiol. Rydym eisiau parhau i ganolbwyntio ar ymyrraeth gynnar, atal a gwaith ailalluogi.
content
Gweithio gyda’n partneriaid lleol a rhanbarthol i ddiogelu plant, pobl ifanc ac oedolion rhag niwed, camdriniaeth a chamfanteisio. Mae hyn yn cynnwys hyfforddiant gorfodol i staff.
content
Darparu mynediad at ddiwylliant a chyfleoedd lles gweithredol sy’n cefnogi iechyd ein trigolion a’n hymwelwyr, ac yn cyfrannu i’r rhaglen atal. Byddwn hefyd yn parhau i weithio gydag ysgolion a lleoliadau cymunedol i gefnogi iechyd, lles a gwytnwch ein plant, ein pobl ifanc a’n teuluoedd.
content
Cefnogi anghenion gofalwyr er mwyn eu galluogi i barhau â’u gwaith pwysig.
content
Datblygu Strategaeth Gwrthdlodi Conwy, a fydd yn cynnwys codi ymwybyddiaeth am dlodi a chynhwysiad cymdeithasol.
content
Gweithio gyda phartneriaid i gefnogi cydlyniant cymunedol a diogelwch cymunedol.
content
Parhau i weithio gyda’n partneriaid i sicrhau cynaliadwyedd y sector gofal. Mae hyn yn cynnwys grwpiau cymunedol a mentrau cymdeithasol.
content
Datblygu ein hadnoddau mewnol i ddarparu amrywiaeth o ddewisiadau gofal a llety i gefnogi ein dinasyddion yn lleol.
Bydd ein gwaith ar gyflawni’r ymrwymiadau hyn yn cyfrannu’n uniongyrchol i ddilyn y Nodau Lles Cenedlaethol canlynol:
- Cymru iachach
- Cymru sy’n fwy cyfartal
- Cymru o gymunedau cydlynus
- Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu
Nesaf: Crynodeb
Blaenorol: Nod hirdymol 4