Rydym eisiau i’n trigolion gael lle diogel a phriodol i’w alw’n gartref, sy’n cefnogi eu hiechyd a’u lles cadarnhaol.
Sut ddyfodol hoffem ni ei weld: Drwy ganolbwyntio ar ddull strategol, byddwn wedi creu cymunedau cynaliadwy y mae’r trigolion yn falch o’u galw’n gartref.
I gefnogi’r nod hon, rhwng 2025 a 2027, byddwn yn gwneud y canlynol:
content
Gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu a chyflwyno ein Strategaeth Tai Lleol.
content
Gweithio gyda datblygwyr a phartneriaid (gan gynnwys Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig) i ddatblygu’r cymysgedd cywir o dai i fodloni anghenion ein trigolion, wedi’u cefnogi gan y polisïau a’r arferion y byddwn yn eu mabwysiadu dan ein Cynlluniau Datblygu Lleol a’r Cynlluniau Bro.
content
Darparu mwy o dai fforddiadwy i fodloni anghenion ein cymunedau amrywiol.
content
Rhoi bywyd newydd i eiddo gwag.
content
Parhau i weithio mewn partneriaeth i gyflawni ein gwaith pwysig ar atal digartrefedd a helpu’r unigolion hynny sydd mewn perygl o fod yn ddigartref. Byddwn yn gweithio i sicrhau bod pob achos o ddigartrefedd yn brin, yn fyr ac nad yw'n digwydd eto.
content
Sicrhau bod yr unigolion hynny sy’n wynebu rhwystrau yn cael llety mewn tai addas.
content
Gweithio ar leihau nifer y bobl sy’n aros am dai ar y gofrestr tai cyffredin a Tai Teg.
content
Helpu pobl i fyw’n annibynnol yn eu cartrefi, a chefnogi'r rheiny sydd angen gofal i gael cartref diogel.
Bydd ein gwaith ar gyflawni’r ymrwymiadau hyn yn cyfrannu’n uniongyrchol i ddilyn y Nodau Lles Cenedlaethol canlynol:
- Cymru lewyrchus
- Cymru iachach
- Cymru sy’n fwy cyfartal
- Cymru o gymunedau cydlynus
Nesaf: Nod hirdymor 5
Blaenorol: Nod hirdymor 3