Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Cyngor Swyddi a gyrfaoedd Cymorth i Ddechrau Gweithio Annual Report 23-24 Dyfyniadau gan Gyfranogwr Cymunedau am Waith a Mwy

Dyfyniadau gan Gyfranogwr Cymunedau am Waith a Mwy


Summary (optional)
start content

Dyfyniadau gan Gyfranogwr Cymunedau am Waith a Mwy


“Hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch i Lorraine ac Alice am eu holl gefnogaeth dros y misoedd diwethaf ers dod yn ddi-waith. Ar ôl bod mewn gwaith ers gadael ysgol a dod yn ddi-waith yn sydyn, ni fuaswn i wedi gallu mynd trwy’r cyfnod hwn heb gefnogaeth Canolbwynt Cyflogaeth Conwy. Mae’r hyfforddiant, cefnogaeth, cyngor ac arweiniad gan gynnwys cymorth gyda fy CV a thechnegau cyfweliad bellach wedi fy helpu i sicrhau cyflogaeth llawn amser mewn gyrfa newydd cyffrous yn y maes diogelwch. Gan fy mod bellach oddi ar y llyfrau, hoffwn ddiolch i chi unwaith eto, a heb Ganolbwynt Cyflogaeth Conwy mi fuaswn i yn dal i fod ar gredyd cynhwysol.”
Ken, sy’n gweithio ym maes Diogelwch 

“Heb help ac arweiniad Gemma a’r hyder a roddodd i mi, fyddwn i erioed wedi meddwl y gallwn i gael swydd fel hon. Mae’r profiad cyfan wedi newid fy mywyd ac mae gen i swydd am oes a fydd yn fy ngwneud i’n hapus.”
Mark, sy’n gweithio fel Gweithiwr Cefnogi Cymunedol yn y Tîm Anableddau Dysgu yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy 

“Fe drefnodd Lorraine bob dim imi, a hyd yn oed rhoi pres imi dalu am ddisel i fynd i’r gwersi gyrru ymarferol; doedd dim byd yn ormod o drafferth iddi. Fe gadwodd hi mewn cysylltiad yn gyson, weithiau dim ond i holi sut oeddwn i’n cadw, ac mi fydda i’n ddiolchgar iddi am byth am fy helpu i newid fy mywyd.”
Chris, sy’n gweithio ym maes Cludo Nwyddau 

“Roedd y cymorth ac arweiniad a gefais yn amhrisiadwy wrth i mi ddod o hyd i fy swydd newydd.”
Valerie, o Wcráin ond sydd bellach yn gweithio yn High Wycombe

end content