Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Cymunedau am Waith a Mwy


Summary (optional)
start content

Cymunedau am Waith a Mwy


Mae Cymunedau am Waith a Mwy Llywodraeth Cymru yn darparu cefnogaeth ymgynghorol cyflogaeth a mentora dwys i bobl sy’n cael eu tangynrychioli yn y farchnad lafur, gan gynnwys pobl ifanc, pobl hŷn, pobl anabl, pobl Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol, a’r rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu.

Ar ôl y blynyddoedd cythryblus diweddar, mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod bod heriau yn parhau i fod yn y dyfodol gan ariannu ehangiad y rhaglen Cymunedau am Waith a Mwy ar gyfer 2023-24. 

Yn ystod y flwyddyn, ymgysylltodd y Canolbwynt gyda 444 o drigolion di-waith yng Nghonwy, gan helpu 123 ohonynt i sicrhau gwaith cynaliadwy. Cafodd gweddill y cyfranogwyr un ai eu cofrestru ar gyfer un o’n cyrsiau hyfforddi i ddatblygu sgiliau newydd neu i wella sgiliau presennol cyn chwilio am waith, neu dderbyn cefnogaeth mentora 1 i 1 wedi’i bersonoli er mwyn goresgyn rhwystrau cymhleth.

Cyfranogwyr Canolbwynt 2023-2024
63% Gwryw, 37% Benyw

Statws Cyfranogwyr
15% Anwiethgar yn economaidd, 36% Di-waith yn hirdymor a 49% Di-waith Tymor Byr

Ceisiadau Swydd yn ôl Sector 
Cyfrifeg, Bancio a Chyllid - 2
Gwaith Elusennol neu Wirfoddol - 4
Celf a Dylunio Creadigol - 1
Peirianneg a Gweithgynhyrchu - 3
Yr Amgylchedd ac Amaethyddiaeth - 4
Gofal Iechyd - 6
Lletygarwch a Rheoli Digwyddiadau - 31
Gorfodi’r Gyfraith a Diogelwch - 8
Hamdden, Chwaraeon a Thwristiaeth - 4
Eiddo ac Adeiladu - 19
Gwasanaethau Cyhoeddus a Gweinyddu - 12
Manwerthu - 11
Gwerthiant - 1
Gwyddoniaeth a Fferylliaeth - 1
Gofal Cymdeithasol - 7
Hyfforddiant Athrawon ac Addysg - 6
Cludiant a Logisteg - 8

end content