Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Croeso i'r Adroddiad Blynyddol Canolbwynt Cyflogaeth Conwy


Summary (optional)
start content

Croeso

Croeso i Adroddiad Blynyddol Canolbwynt Cyflogaeth Conwy ar gyfer 2023-24.

Roedd hi’n flwyddyn brysur a llwyddiannus arall wrth i’r Canolbwynt helpu i gefnogi 123 o drigolion Conwy i gael gwaith, gyda 444 o drigolion eraill yn cofrestru i gymryd rhan yn y rhaglen Cymunedau am Waith a Mwy. 

Mae’r Rhaglen Cymunedau am Waith a Mwy, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn parhau i wneud gwahaniaeth sylweddol i fywydau pobl ac rydym yn adeiladu ar hyn drwy gyllid ychwanegol gan ffynonellau eraill er mwyn sicrhau nad yw unrhyw un sydd angen ein cymorth yn colli allan, yn arbennig y rhai sy’n anodd eu cyrraedd ac sydd â rhwystrau cymhleth.

Fe wnaethom gyflwyno nifer o rolau newydd a sylweddol er mwyn cryfhau tîm y Canolbwynt yn ystod y flwyddyn, sydd wedi’n galluogi i ehangu ein cyrhaeddiad o fewn y gymuned, yn cynnwys penodi Swyddog Ymgysylltu Cyflogwyr newydd er mwyn datblygu ac adeiladu ar ein perthynas gyda chyflogwyr, er mwyn rhoi mynediad i’n cyfranogwyr i rwydwaith o fusnesau a sefydliadau sy’n chwilio i recriwtio ar bob lefel. Mae ehangu’r tîm wedi sicrhau bod gennym y gallu a’r cyflymder i ymateb i newid yn ogystal â’r gallu i weithio gyda’n partneriaid strategol i ddatblygu a chyflwyno prosiectau er lles pawb sydd yn rhan. Mae’r Cynllun Gwarantu Cyfweliad yn enghraifft dda o hyn.

Fe wnaethom wynebu heriau sylweddol yn ystod rhan olaf y flwyddyn hefyd, ac rydym wedi ceisio eu goresgyn. Ym mis Rhagfyr 2023, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru doriad o 35% i’n cyllideb Cymunedau am Waith a Mwy yn 2024-25. Wrth ymateb, fe lwyddom i gael £680,000 ychwanegol yn ystod chwarter 3 a 4 gan ffynonellau gwahanol i lenwi’r bwlch hwn a thyfu a chryfhau ein darpariaeth gwasanaeth. Gan fod yr ansicrwydd ynghylch dyfodol Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn parhau ar ôl 2024, rydym wrthi’n chwilio am ffyrdd o ddatblygu ein gwytnwch a chynaliadwyedd fel Gwasanaeth yn y dyfodol.

Ymhlith y cyllid ychwanegol a gafwyd i gefnogi prosiectau newydd mae:

Prosiect Ymgysylltu Cyflogadwyedd Pobl Ifanc
Mae’r prosiect hwn yn canolbwyntio ar helpu a chefnogi pobl ifanc 16 i 19 oed i ddatblygu sgiliau am oes gan ddarparu llwybr amlwg at hyfforddiant a chyflogaeth. Fe’i hariennir trwy Gronfa Allweddol UKSPF Pobl a Sgiliau Conwy a bydd yn rhedeg tan ddiwedd mis Tachwedd 2024.

Hyder yn Dy Hun
Mae’r rhaglen hon yn canolbwyntio ar leihau ynysiad cymdeithasol; cynyddu hyder/hunan-barch; datblygu sgiliau ymarferol, ariannol, digidol a chyflogadwyedd gan wella iechyd corfforol a meddyliol. Fe’i hariennir trwy Gronfa Allweddol UKSPF Pobl a Sgiliau Conwy a bydd yn rhedeg tan ddiwedd mis Tachwedd 2024.

Llwybrau at Gyflogaeth
Amserlen o lwybrau a chyrsiau hyfforddi penodol i’r sector sy’n cynnig cyfuniad o hyfforddiant ar sgiliau meddal a chyflogadwyedd, cymwysterau ardystiedig yn seiliedig ar y sector a phrofiad gwaith ymarferol, yn ogystal â chyrsiau hyfforddi ad-hoc sydd o fewn anghenion datblygu’r unigolyn. Fe’i hariennir gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU a bydd yn rhedeg tan ddiwedd 2024.

Cymorth Rhifedd Cyflogadwyedd wedi’i Dargedu - TENS
Mae TENS yn darparu cefnogaeth sgiliau rhifedd hanfodol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn i unigolion di-waith sydd angen datblygu eu sgiliau rhifedd a hyder rhifedd er mwyn gwneud cais am swyddi neu ddechrau llwybr gyrfa penodol. Mae TENS hefyd yn darparu cymorth rhifedd ar gyfer carcharwyr sy’n cael eu rhyddhau yn ôl i gymuned Conwy trwy bartneriaeth weithio gydweithredol rhwng Canolbwynt Cyflogaeth Conwy a Charchar y Berwyn. Fe’i hariennir trwy Gronfa Allweddol UKSPF Pobl a Sgiliau Conwy a bydd yn rhedeg tan ddiwedd 2024.

Mentor Cyflogaeth i Bobl Ddigartref 
Mae Mentor Cyflogaeth Digartref dynodedig, a reolir gan y Canolbwynt, yn gweithio o fewn Tîm Atal Digartrefedd Conwy i gefnogi pobl sydd mewn perygl o, neu’n profi digartrefedd a’u helpu i oresgyn rhwystrau i hyfforddiant, gwirfoddoli a chyflogaeth. Ariennir y rôl hon gan Grant Cymorth Tai Conwy hyd at ddiwedd mis Mawrth 2025.

Wrth i ni edrych ymlaen, byddwn yn canolbwyntio ar gynnal ein cefnogaeth i helpu trigolion Conwy ddod o hyd i gyflogaeth gynaliadwy, sy’n eu galluogi i weithio’n gynhyrchiol wrth gynnal eu hiechyd a lles. Trwy weithio mewn partneriaeth gyda’n partneriaid strategol, bydd Canolbwynt Cyflogaeth Conwy yn parhau i wneud newidiadau cadarnhaol a pharhaol i fywydau pobl.

I atgyfeirio rhywun at Ganolbwynt Cyflogaeth Conwy, anfonwch e-bost at ccc@conwy.gov.uk neu ffoniwch 01492 575578

Libby Duo
Rheolwr Strategol, Canolbwynt Cyflogaeth Conwy

end content