Ymgysylltu â'r Gymuned
Parhaodd y Canolbwynt ag amserlen lawn ac ystyrlon o sesiynau galw heibio er mwyn ymgysylltu â, a chefnogi’r gymuned o amgylch y sir i hyrwyddo ein gwaith a’n cefnogaeth. Mae hyn wedi cynnwys llyfrgelloedd, canolfannau i deuluoedd, canolbwyntiau cymunedol, canolfannau gwaith, Banc Bwyd Abergele, Canolfan Hamdden Bay View ac Ysbyty Glan Clwyd gyda chyfartaledd o 40 o sesiynau ymgysylltu bob mis.
Cafodd y sesiynau hyn eu cefnogi gan bresenoldeb ychwanegol mewn digwyddiadau allweddol yn y sir, er enghraifft fe fynychom ‘Cymerwch Ran’, sef digwyddiad celfyddydau, llenyddiaeth a gwyddoniaeth dau ddiwrnod blynyddol Venue Cymru, gyda gweithdai a digwyddiadau o gelf a chrefft i ddawns a drama. Fe gynhaliwyd y digwyddiad ym mis Ionawr, ac roedd yn hynod o brysur a llwyddiannus gyda 114 o ymgysylltiadau.