Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Gyrfaoedd / Ffeiriau Swyddi


Summary (optional)
start content

Gyrfaoedd / Ffeiriau Swyddi

Arddangosfa Swyddi Conwy

Cynhaliwyd Arddangosfa Swyddi Conwy, sef ein Ffair Swyddi a Gyrfaoedd blynyddoedd i holl sectorau ar draws y sir, ym mis Chwefror, ac roedd yn llwyddiant ysgubol yn ôl y rhai a fynychodd. 

Nod y digwyddiad yw bod yn siop un alwad i ddod â chyflogwyr ynghyd sy’n ceisio recriwtio ymhlith rhai sy’n chwilio am waith, yn ogystal â cholegau a sefydliadau hyfforddi ar gyfer y rheiny sydd eisiau dysgu sgiliau newydd neu ddatblygu eu sgiliau. Dyma’r drydedd flwyddyn rydym wedi cynnal y digwyddiad ac mae’n tyfu bob blwyddyn, gyda’r digwyddiad eleni yn denu 1,117 o fynychwyr a 86 o arddangoswyr, gan ei wneud yn ddigwyddiad cyflogaeth mwyaf Gogledd Cymru.

Wedi’i drefnu gan Ganolbwynt Cyflogaeth Conwy a’r Adran Gwaith a Phensiynau, gyda chefnogaeth gan Greu Menter, Cymorth i Fusnesau Conwy a Chymru’n Gweithio a ddarperir gan Yrfa Cymru, amlygodd y digwyddiad nifer o yrfaoedd a chyfleoedd hyfforddi amrywiol o fewn Gogledd Cymru gan dderbyn yr adborth canlynol gan yr arddangoswyr:

• Dywedodd 93% o arddangoswyr fod y digwyddiad yn ardderchog neu’n dda iawn
• Dywedodd 60% o’r arddangoswyr y byddent yn cynnig swydd i ymgeisydd a wnaethant gwrdd ar y diwrnod
• Dywedodd 99% o’r arddangoswyr y byddent yn mynychu digwyddiad arall wedi’i drefnu gan y Canolbwynt a’r Adran Gwaith a Phensiynau

Ffeiriau Swyddi

Ym mis Mai, fe wnaethom gefnogi tîm Gofal Cymdeithasol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i drefnu Ffair Swyddi Gofal Cymdeithasol ym Mae Colwyn. Roedd nifer dda o gyflogwyr o’r sector yn bresennol er mwyn hyrwyddo eu cyfleoedd gwaith, gan hefyd chwarae rhan hanfodol yn amlygu’r 65 o swyddi gwahanol o fewn y sector.

Trwy gydol y flwyddyn, fe wnaethom hefyd gynnal ffeiriau swyddi misol llai mewn partneriaeth â’r Adran Gwaith a Phensiynau mewn Canolfannau Gwaith yn Llandudno a Bae Colwyn gyda dros 300 o bobl wedi mynychu yn chwilio am waith. Fe wnaethom hefyd arddangos mewn ffeiriau swyddi a gyrfaoedd wedi’u cynnal gan ein partneriaid strategol gan gynnwys y Gwasanaethau Cyfiawnder, Prifysgol Bangor, Maximus ac ysgolion uwchradd lleol.

end content