Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Digwyddiadau


Summary (optional)
start content

Digwyddiadau


Fe weithiodd y Canolbwynt mewn partneriaeth â Chymru’n Gweithio i drefnu digwyddiad Gwaith a Lles ar gyfer pobl ‘canol oed’ dros 50 oed yn Neuadd y Dref Llandudno. Roedd y Diwrnod Gwybodaeth yn canolbwyntio ar helpu pobl i aros yn iach ac annibynnol gydag ystod o arddangoswyr yn cynnig cymorth a chyngor ar ddod o hyd i waith, uwchsgilio, gwella iechyd corfforol a meddyliol, cyngor a chefnogaeth ar gyllid a chostau aelwyd, cyngor ar sefydlu busnes yn ogystal â chymorth gyda chymhwysedd digidol.

Fe wnaethom hefyd fynychu nifer o ddigwyddiadau a drefnwyd gan bartneriaid allweddol gan gynnwys Mind Conwy, Hope Restored, digwyddiad Lles CGGC, Digwyddiadau Costau Byw Dŵr Cymru, digwyddiad i’r rhai dros 50 yn Llanrwst, a Diwrnod Iechyd a Lles a gynhaliwyd gan Sefydliad Rowan. 

Mae’r Sefydliad Gweithwyr Proffesiynol Cyflogadwyedd yn cynnal ei Ddigwyddiad Rhwydweithio Rhanbarthol cyntaf yng Nghymru ym Mai 2023. Wedi’i noddi gan PeoplePlus a’i drefnu mewn partneriaeth gyda Chanolbwynt Cyflogaeth Conwy a The Better Health Generation, roedd y digwyddiad yn canolbwyntio ar fodloni gofynion recriwtio mewn nifer o ddiwydiannau ac yn dod a’r sectorau cyhoeddus a phreifat ynghyd i rannu arferion da. Roedd amrywiaeth o siaradwyr ar destunau amrywiol gan gynnwys yr economi, sgiliau, darpariaeth economaidd leol, darpariaeth gymdeithasol leol, cyflogaeth ieuenctid ac iechyd meddwl.

Mae Cynllun Addysg Beirianneg Cymru yn cynnal nifer o weithgareddau gan ddarparu dysgwyr gyda’r cyfle i ennill profiad ymarferol i weithio gyda diwydiannau, busnesau ac addysg uwch. Un gweithgaredd o’r fath oedd dylunio, creu a rasio model o gar F1 i’r rai rhwng 11 a 19 oed ac roeddem yn falch o gael gwahoddiad i helpu gyda beirniadu’r Gystadleuaeth Ranbarthol F1 mewn Ysgolion Gogledd Cymru ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd yn Ysgol Uwchradd Dinbych. Cymerodd 24 o ysgolion ar draws y rhanbarth ran yn y gystadleuaeth ac roedd safon y ceisiadau yn hynod o uchel gyda dysgwyr yn dangos eu gwybodaeth a brwdfrydedd gan arwain at arddangosfeydd a dyluniadau creadigol iawn.

Fe wnaethom hefyd helpu i feirniadu Gwobr Miwtini Bach M-Sparc. Mae Miwtini Bach yn rhaglen ar gyfer disgyblion Blwyddyn 5 a 6 yng Nghonwy, Gwynedd ac Ynys Môn er mwyn ymgysylltu gyda, a dysgu am Entrepreneuriaeth. Roedd y dasg yn cynnwys dylunio a datblygu cynnyrch, prisio, marchnata, creu, brandio a gwerthu eu syniad terfynol er mwyn cael cyllid. Fe wnaeth chwe ysgol yng Nghonwy - Ysgol Porth y Felin, Ysgol Deganwy, Ysgol Pencae, Ysgol Pant y Rhedyn, Ysgol Capelulo, ac Ysgol Awel y Mynydd - gymryd rhan yn y rownd derfynol a gynhaliwyd yn swyddfeydd M-Sparc yng Nghaerwen, Ynys Môn, ac roedd gan y beirniaid dasg anodd gan fod lefel y ceisiadau yn rhagorol, ond yr ysgolion buddugol oedd Ysgol Deganwy ac Ysgol Awel y Mynydd.

end content