Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Ymgysylltu â Chyflogwyr


Summary (optional)
start content

Ymgysylltu â Chyflogwyr

Er mwyn datblygu ac adeiladu ein perthynas gyda chyflogwyr, fe wnaethom benodi ail Swyddog Ymgysylltu Cyflogwyr. Ymunodd Alice Kirwan â’r tîm yn Haf 2023 gan ddod a chyfoeth o brofiad gyda hi ar ôl gweithio i Sir Ddinbych yn Gweithio mewn swydd debyg. Yn gweithio mewn partneriaeth gyda Clare Kingscott, ein Swyddog Ymgysylltu Cyflogwyr presennol, maent wedi llwyddo i adeiladu perthnasau gyda chyflogwyr hen a newydd er mwyn sicrhau cyfleoedd gwirfoddoli, treialon gwaith a chyflogaeth ar gyfer cyfranogwyr y Canolbwynt a hefyd wedi trefnu nifer o ddigwyddiadau a chynlluniau dylanwadol, yn ogystal â Ffeiriau swyddi misol yn y Canolfannau Gwaith allweddol:

Digwyddiad Rhwydweithio a Gwybodaeth Busnes
Cynhaliom ein Digwyddiad Rhwydweithio a Gwybodaeth Busnes cyntaf yng Nghanolfan Fusnes Conwy ym mis Chwefror, a oedd yn arddangos y gefnogaeth busnes gwerthfawr ar gael i gyflogwyr gyda siaradwyr gwadd yn cynnwys yr Adran Gwaith a Phensiynau a Grŵp Llandrillo Menai a gyflwynodd wybodaeth ar y ffyrdd i uwchsgilio a hyfforddi staff presennol gyda dewisiadau cyllido a chyfleoedd prentisiaeth.Roedd hefyd nifer o arddangoswyr o sefydliadau partner a oedd yn gallu trafod y gefnogaeth ychwanegol y gallant ei gynnig i gyflogwyr.

Cynllun Gwarantu Cyfweliad
Cyflwynodd y Canolbwynt Gynllun Gwarantu Cyfweliad sydd wedi’i ddylunio i wneud y broses recriwtio yn haws ar gyfer cyflogwyr. Mae’r Cynllun yn gwella’r broses ymgeisio trwy adael i gyflogwyr gael mynediad at gyfranogwyr y Canolbwynt sydd wedi rhagsgrinio, felly dim ond yr ymgeiswyr mwyaf addas sy’n bodloni’r holl fanylion swydd sy’n cael eu rhoi ymlaen ar gyfer cyfweliad.

Mae hwn yn wasanaeth am ddim sy’n agored i holl gyflogwyr yn y sir waeth pa mor fawr neu fach yw’r busnes neu’r sefydliad, ac mae busnesau lleol sydd wedi cofrestru ac eisoes yn elwa, yn cynnwys Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy,Pier Llandudno, Alpine Coaches a nifer o westai yn Llandudno, gan gynnwys The Imperial a St George.

Digwyddiadau Busnes Pwrpasol
Ymunodd y Canolbwynt gyda COPA, Grŵp Llandrillo Menai a’r Adran Gwaith a Phensiynau i ddarparu sesiwn bwrpasol o gefnogaeth i weithwyr ar Bier Llandudno.

Fel cyflogwr sy’n llywio eich ffordd trwy’r holl hyfforddiant am ddim sydd ar gael ar gyfer eich staff, gall fod yn ddryslyd iawn, yn ogystal â’r rheolau gwahanol o ran ennill arian a hawlio budd-daliadau. Nod y sesiwn hon wedi’i theilwra oedd tynnu’r holl wybodaeth ynghyd mewn modd a fyddai’n hawdd ei ddeall, wrth gymell aelodau staff i gael mynediad at gyrsiau hyblyg, rhan amser ar-lein er mwyn gwella eu rhagolygon gyrfa.

Cefnogaeth Cyrsiau Hyfforddi
Mae ein Swddogion Ymgysylltu â Chyflogwyr hefyd yn gweithio’n agos gyda’n Cydlynydd Hyfforddiant i gynnig cefnogaeth cyflogadwyedd i gyfranogwyr cyrsiau. Mae hyn yn amrywio o gynnal Sesiynau Cyflogadwyedd er mwyn ysgrifennu CV, llenwi ffurflenni cais a thechnegau cyfweliad i ddod o hyd i brofiad gwaith i gyfranogwyr sy’n amhrisiadwy ar gyfer eu CV yn ogystal â’u helpu i sicrhau swyddi llawn amser.

end content