Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Hyfforddiant


Summary (optional)
start content

Hyfforddiant

Mae darparu trigolion Conwy gyda’r sgiliau i ddod o hyd i waith neu newid gyrfa yn parhau i fod yn elfen hanfodol o gefnogaeth y Canolbwynt. Yn ogystal â chynnal cyrsiau diwydiant penodol, rydym hefyd yn darparu hyfforddiant sydd wedi’i deilwra i anghenion ein cyfranogwyr. I rai gall hyn olygu mynychu cwrs hyfforddi er mwyn eu galluogi i weithio mewn sector newydd, ar gyfer eraill gall ganolbwyntio ar uwchsgilio er mwyn sicrhau bod ganddynt y sgiliau gofynnol ar gyfer anghenion cyflogwyr heddiw, ac felly mae’r amrywiaeth o destunau cwrs rydym yn eu cynnig yn eang. 

Yn ystod y flwyddyn, fe gynhaliom 33 o gyrsiau hyfforddi ar gyfer cyfranogwyr gyda thestunau yn amrywio o:

• Sesiynau cyflogadwyedd gan gynnwys ysgrifennu CV, ceisiadau swyddi a thechnegau cyfweliad.
• Rhaglen Sefydlu i’r rhai sydd eisiau dod yn hunangyflogedig
• Cwrs CSCS ar gyfer uwchsgilio’r rhai sydd eisiau gweithio yn y diwydiant adeiladu.
• Cwrs Dysgu Cymraeg 
• Gofal Cymdeithasol
• Goruchwylwyr drysau SIA
• Teledu Cylch Caeedig
• Twristiaeth a Lletygarwch
• Adeiladu• Llythrennedd Digidol
• Cerbydau Nwyddau Trwm 
• COSHH a Lefel 2 mewn glanhau
• Y Cyfryngau Cymdeithasol 
• Cyflwyniad i’r Diwydiant Harddwch
• Sesiwn Flasu Barista 
• Sut i ddod yn ddylanwadwr

Hefyd cynigwyd cefnogaeth a chymorth gwerthfawr i ffoaduriaid o Wcráin yn wythnosol yn y sesiynau Galw Heibio Cymunedol yn No 20 ym Mae Colwyn. Roedd hyn yn cynnwys eu helpu i lunio CV ac amlygu eu sgiliau y gellir eu trosglwyddo er mwyn dangos eu bod yn barod ar gyfer gwaith ac yn addas ar gyfer swyddi mewn amryw o ddiwydiannau. Cawsom help hefyd gan Addysg Oedolion Cymru i ddarparu sesiynau Saesneg sgwrsio. Roedd yr holl gefnogaeth hyn yn hanfodol gan chwarae rôl hollbwysig i’w helpu i ymgartrefu yn y DU a sicrhau gwaith.

Cwblhaodd Cydlynydd Hyfforddi’r Canolbwynt gwrs Sgiliau Bwyd a Maeth Cymunedol Lefel 2, er mwyn allu darparu rhaglen Bwyta’n Ddoeth Arbed yn well Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i gymunedau a grwpiau cyfranogwyr y Canolbwynt. Wrth i nifer y bobl sydd angen ac yn ymweld â Banciau Bwyd dyfu, mae’r sesiynau awr hyn wedi bod yn werthfawr i helpu pobl wneud dewisiadau iach, dysgu sut i ddefnyddio cynhwysion y cwpwrdd a darparu argymhellion ar gyfer arbed arian wrth siopa bwyd neu ymweld â Banc Bwyd.

Ym Medi 2023, cafodd y Canolbwynt wybod ei fod wedi llwyddo i sicrhau £292,510 gan Lywodraeth y DU trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU ar gyfer prosiect Llwybrau i Gyflogaeth er mwyn darparu hyfforddiant hanfodol yn benodol ar gyfer y sector i holl drigolion 16+ oed yng Nghonwy. Gan fod y cyllid ond yn ddilys tan ddiwedd Tachwedd 2024, aethom ati ar unwaith, ac yn y cyfnod byr tan ddiwedd y flwyddyn ariannol, fe wnaethom gofrestru 282 o drigolion Conwy a chynnal 26 o gyrsiau.

Yn ogystal â hyfforddi ein cyfranogwyr, mae uwchsgilio ein staff hefyd yn allweddol i sicrhau eu bod yn gallu bodloni anghenion pobl ddi-waith â rhwystrau cymhleth. Aeth ein Mentoriaid Cyflogaeth ar gwrs Mentora ar gyfer Cyflogadwyedd y Sefydliad Gweithwyr Proffesiynol Cyflogadwyedd. Mae’n rhaglen mentora ardystiedig gyda’r nod o ddatblygu gwybodaeth, sgiliau ac ymddygiad sy’n tanategu arferion da a sicrhau lefelau uchel o safonau ansawdd wrth weithio gyda chyfranogwyr sydd angen lefelau uwch o gefnogaeth i ddod o hyd i, cyflawni a chadw gwaith. Roedd yn cynnwys theorïau a fframweithiau mentora, strwythuro sgyrsiau mentora, adnabod y cydbwysedd rhwng gwrando a chynnig cyngor, adeiladu perthnasau ymddiriedus, hyrwyddo twf a newid cadarnhaol a’r gwahaniaeth rhwng technegau hyfforddi a mentora a phryd i ddefnyddio pob un. Mae pawb yn y tîm hefyd wedi cwblhau Cwrs Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl i Oedolion ac mae unrhyw un sy’n gweithio gyda Phobl Ifanc fel rhan o’u swydd hefyd wedi cwblhau’r un cwrs yn benodol ar gyfer yr ystod oedran honno.

end content