Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Helpu Pobl Ifanc


Summary (optional)
start content

Helpu Pobl Ifanc

Yn 2022, sicrhaodd Canolbwynt Cyflogaeth Conwy gyllid ychwanegol gan y Warant i Bobl Ifanc Llywodraeth Cymru i helpu a chefnogi pobl ifanc 16-24 oed i gael gwaith a/neu hyfforddiant i ddatblygu sgiliau gydol oes.

Aeth y Canolbwynt i bartneriaeth gyda chyflogwyr i ddarparu diwrnodau gyrfaoedd/gweithgareddau pwrpasol i alluogi llawer o bobl ifanc i gymryd rhan mewn diwrnodau llawn hwyl ac antur wrth ddangos y cyfleoedd gyrfaoedd ar gael iddynt. Un digwyddiad o’r fath oedd Parc Gwyliau Tŷ Mawr, rhan o Parkdean Resorts, a arweiniodd at 6 o’r mynychwyr yn ennill cyflogaeth.

Gweithiodd ein swyddogion gyda Phenrhos Avenue, un o’r tair Uned Cynhwysiant Cymdeithasol yng Nghonwy, i ddarparu cymorth cyflogadwyedd pwrpasol ar gyfer myfyrwyr Blwyddyn 11. Mae Penrhos Avenue yn darparu darpariaeth amgen i fyfyrwyr 5 i 16 oed sydd wedi’i chael yn anodd mewn addysg prif ffrwd, un ai yn sgil salwch, problemau ymddygiad neu anawsterau eraill. Mae’r gefnogaeth yn cynnwys datblygu hunanhyder, hunanwerth a’u hymgysylltu nhw mewn addysg er mwyn darparu cymwysterau fel y gallent gael mynediad at lwybrau yn y dyfodol. Cynhaliodd y Canolbwynt gyfres o Weithdai Technegau Cyfweliad a CV, trafod cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant a chefnogi nifer ohonynt i gofrestru ar un o’n cyrsiau hyfforddi.

Cynhaliwyd nifer o Raglenni Symud Ymlaen mewn cydweithrediad â Youth Shedz Abergele. Roedd y rhain yn rhaglenni cyn-gyflogaeth wedi’u teilwra, am 6 wythnos ar gyfer pobl ifanc 16-24 oed, ac roedd yn cynnwys nifer o sefydliadau partner yn cynnal sesiynau ar iechyd meddwl a lles, datblygu hyder, rheoli arian ac adeiladu tîm, gyda thîm y Canolbwynt yn cynnal sesiynau ysgrifennu CV, sgiliau cyfweliad a chymorth wedi’i bersonoli er mwyn dod o hyd i leoliadau gwaith addas.

Fe wnaethom hefyd fynychu Ffeiriau Gyrfaoedd/Swyddi mewn ysgolion uwchradd yng Nghonwy er mwyn helpu i arwain a chefnogi’r dysgwyr hynny sydd heb fapio eu siwrnai ar ôl ysgol. Mae hyn yn rôl bwysig i ni chwarae gan ei fod yn ein galluogi i ymgysylltu gyda’r dysgwyr hynny a fyddai’n disgyn trwy’r rhwyd ar ôl gadael ysgol, a’u helpu i lywio eu llwybr tuag at hyfforddiant neu waith. Yn sgil y digwyddiadau hyn, cawsom ein gwahodd i fynychu sesiynau gwybodaeth ar gyfer gofalwyr a rhieni er mwyn eu gwneud yn ymwybodol o’r cymorth a chefnogaeth y gallwn ei gynnig.

Fe gynhaliom ymgyrch marchnata wedi’i thargedu at ddysgwyr ym Mlwyddyn 11-13.Roedd hyn yn cynnwys ymgyrch hysbysebu ar Facebook i helpu myfyrwyr ddod o hyd i swyddi dros yr haf. Roedd un o’n rhaglenni Cyflogadwyedd wythnosol ar Radio Bayside yn canolbwyntio ar fyfyrwyr oedd yn aros am eu Canlyniadau Lefel A a TGAU. Roedd hyn yn drafodaeth o amgylch y bwrdd gyda Grŵp Llandrillo Menai, Gyrfa Cymru a’r Canolbwynt yn siarad am ddewisiadau i bobl ifanc a ble i droi i gael cyngor, a chafodd hyn ei gefnogi gan sesiwn alw heibio ar Ddiwrnodau Canlyniadau yng Nghanolfan Siopa Bayview.

Yn ogystal â’r gweithgareddau uchod, rydym hefyd wedi gweithio’n agos gyda nifer o bartneriaid allweddol gan gynnwys Gwasanaethau Addysg eraill – prosiectau Gwasanaeth Ieuenctid Conwy, Cynnydd, Prosiect y Dderwen a TRAC, Cyfiawnder Ieuenctid, Youth Shedz, Ymgynghorwyr 16-24 oed yng Nghanolfannau Gwaith, Scope, Twf Swyddi Cymru a Gyrfa Cymru. Mae’r Fframwaith Datblygu Ymgysylltu Ieuenctid yn chwarae rôl hanfodol gynyddol i ymgysylltu gyda’r myfyrwyr Blwyddyn 11 hynny sydd yn y perygl mwyaf o fod heb Addysg, Gwaith neu Hyfforddiant (NEET) ar ôl gadael ysgol, ac mae’r gweithgaredd rydym yn gweithio arno yn rhaglen drwy gydol y flwyddyn.

Rydym yn falch y bydd y gefnogaeth werthfawr hon yn parhau yn 2024-25 gydag arian wedi’i sicrhau gan Gronfeydd Allweddol Conwy Pobl a Sgiliau i gefnogi pobl ifanc rhwng 16-19 oed.

end content