Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Camddefnyddio Sylweddau - Hyfforddiant gan Adferiad


Summary (optional)
start content


Mae rhaglen Datblygu'r Gweithlu Gogledd Cymru ar Gamddefnyddio Sylweddau yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau am ddim a ddarperir gan Dîm Dysgu a Datblygu Adferiad. 

Mae’r cyrsiau hyn yn addas i unigolion ar draws y chwe sir yng Ngogledd Cymru, ac maent yn canolbwyntio ar fynd i’r afael â phroblemau iechyd meddwl a defnyddio sylweddau.  Nod Adferiad, gyda’i arbenigedd yn y meysydd hyn, yw darparu gwasanaethau rhagorol i unigolion sydd â phroblemau defnyddio sylweddau, problemau iechyd meddwl, ac anghenion cymhleth yng Nghymru. 

Mae Rhaglen Datblygu'r Gweithlu yn cael ei hariannu gan Bartneriaid a Bwrdd Cynllunio Ardal Camddefnyddio Sylweddau Gogledd Cymru. Nodweddion allweddol y cyrsiau yw: 

1. Hyfforddwyr Cymwys: Mae’r cyrsiau yn cael eu darparu gan hyfforddwyr cymwys sydd hefyd yn ymarferwyr gyda gwybodaeth uniongyrchol am y pynciau maent yn eu trafod. Bydd hyn yn sicrhau bod cyfranogwyr yn cael hyfforddiant gan arbenigwyr sydd â gwybodaeth ddiweddar a phrofiad ymarferol yn y maes. 

2. Amgylchedd Cartrefol: Mae’r sesiynau hyfforddi yn cael eu cynnal mewn amgylchedd cartrefol lle bydd cyfranogwyr yn teimlo’n gyfforddus i ofyn cwestiynau ac i gymryd rhan mewn trafodaethau. Mae’r dull hwn yn meithrin awyrgylch sydd yn ffafriol i ddysgu a datblygu sgiliau. 

3. Cynnwys Diweddar: Mae’r cyrsiau wedi’u llunio i ddarparu’r wybodaeth fwyaf diweddar i gyfranogwyr a sgiliau sydd yn berthnasol i’w rolau. Bydd hyn yn sicrhau bod gan unigolion y wybodaeth, y cyngor a strategaethau cefnogi ddiweddaraf i fynd i’r afael ag anghenion y rheiny maent yn eu gwasanaethu.   

4. Darpariaeth Cefnogaeth Well: Drwy ddarparu’r wybodaeth a sgiliau perthnasol i’r cyfranogwyr, nod y rhaglen hon yw gwella ansawdd y wybodaeth, cyngor a chefnogaeth a ddarperir i unigolion sydd gyda phroblemau defnyddio sylweddau ac iechyd meddwl. Bydd hyn yn ei dro yn cyfrannu at ganlyniadau gwell i’r rheiny sydd yn defnyddio’r gwasanaethau cefnogi. 

Mae’r prosbectws yn amlinellu manylion y cyrsiau sydd ar y gweill ac yn darparu gwybodaeth am sut i gofrestru. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu angen rhagor o wybodaeth, gall bartïon sydd â diddordeb gysylltu â’r tîm Adferiad drwy e-bost training@adferiad.org 

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content