Manylion y cwrs:
Dyddiad | Amser | Lleoliad | Hyfforddwr | Grŵp targed |
Dydd Llyn 16th Medi 2024 |
09:15am chofrestru 09:30am - 16:30pm |
Dros y We ar Zoom |
Siobhan Maclean |
Gwasanaethau Targed – Busnes a Thrawsnewid, Lles Cymunedol, Tîm Anableddau, Cymorth i Deuluoedd ac Ymyrraeth, Plant sy’n Derbyn Gofal, Pobl Hŷn a Gwaith Cymdeithasol Ysbyty, Safonau Ansawdd, Tîm Pobl Ddiamddiffyn a Chyfiawnder Ieuenctid.
Grŵp Targed – Ymarferwyr a rheolwr Gwasanaethau Plant ac oedolion sy’n ymdrin â llwyth achos. |
Nod:
- Deall yr hyn sy’n cael ei ystyried fel goruchwyliaeth effeithiol ym maes gwaith cymdeithasol.
Canlyniadau Dysgu:
- Deall pwysigrwydd cytundeb effeithiol o fewn goruchwyliaeth a defnyddio hyn i gefnogi datblygiad proffesiynol.
- Deall sut y gall profiad blaenorol o oruchwyliaeth effeithio ar berthynas oruchwyliol.
- Cydnabod sut y gall pryderon ac emosiynau gael effaith ar y gallu i wneud penderfyniadau effeithiol a meddwl yn feirniadol.
- Deall sut i ddefnyddio goruchwyliaeth i hyrwyddo cadernid wrth weithio â materion cymhleth.
- Adnabod sut y gall goruchwyliaeth gefnogi adfyfyrio a gwella deilliannau ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth.
- Deall sut y gall goruchwyliaeth gefnogi gweithio effeithiol mewn partneriaeth broffesiynol.
- Trosolwg o Ddeallusrwydd Emosiynol a Chadernid.
Am wybodaeth bellach, neu os ydych wedi archebu lle ar y cwrs a heb dderbyn hysbysiad i fynychu cysylltwch â’r Tîm Gweinyddol Datblygu’r Gweithlu a Dysgu. Peidiwch â mynychu unrhyw gwrs oni bai’ch bod wedi derbyn hysbysiad yn cadarnhau bod lle i chi oherwydd mae’n bosibl y bydd y digwyddiad yn llawn.