Manylion y Cwrs:
Dyddiad | Amser | Lleoliad | Hyfforddwr | Grŵp targed |
Dydd Llun 10 Chwefror |
09:30am – 16:30pm |
ZOOM |
Siobhan Maclean |
Gwasanaethau Targed – Lles Cymunedol, Tîm Anableddau, Cefnogi Teuluoedd ac Ymyriadau, Plant sy’n Derbyn Gofal, Gwasanaethau wedi’u Comisiynu, Pobl Hŷn a Gwaith Cymdeithasol Ysbyty, Safonau Ansawdd; Tîm Pobl Ddiamddiffyn, Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Grŵp Targed – Ymarferwyr, rheolwyr a staff cymorth Gwasanaethau Plant ac Oedolion sydd ynghlwm ag asesiadau ac ysgrifennu adroddiadau |
Nodau ac amcanion y cwrs:
Canlyniadau Dysgu:
- Deall beth mae ymarfer myfyriol yn ei olygu mewn gwaith cymdeithasol.
- Deall pam fod ymarfer myfyriol yn bwysig mewn gwaith cymdeithasol cyfoes.
- Bod â gwybodaeth am ddamcaniaethau gwahanol a modelau myfyriol.
- Gallu defnyddio ystod eang o fodelau myfyriol i wella myfyrio.
- Deall y rhwystrau i ymarfer myfyriol a sut i’w goresgyn.
- Defnyddio technegau ymarfer myfyriol i ddadansoddi gwybodaeth yn feirniadol, llunio damcaniaethau i lywio penderfyniadau a chynllunio.
- Gallu dadansoddi gwybodaeth o asesiadau er mwyn llywio’r cynllunio.
Am wybodaeth bellach, neu os ydych wedi archebu lle ar y cwrs a heb dderbyn hysbysiad i fynychu, cysylltwch â’r Tîm Gweinyddol Datblygu’r Gweithlu a Dysgu. Peidiwch â mynychu unrhyw gwrs oni bai’ch bod wedi derbyn hysbysiad yn cadarnhau bod lle i chi oherwydd mae’n bosibl y bydd y digwyddiad yn llawn.