Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Modiwlau e-Ddysgu Dementia


Summary (optional)
start content

Mae CareTutor/BVS wedi llunio modiwlau a chyrsiau sydd wedi’u teilwra ar gyfer y Sector Gofal.

Mae 2 fodiwl dementia y gall y Gwasanaeth Gweithlu eu darparu ar eich cyfer chi a’ch staff.

Gofal Dementia 1: Deall Dementia

Manylion modiwl Gofal Dementia 1: Deall Dementia

  • Nodau ac amcanion y cwrs: Mae’r cwrs hwn yn cyflwyno’r rhinweddau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, y dylid eu gweld yn eich arferion o ddydd i ddydd, a sut y gall gwerthoedd sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn a thechnegau wedi’u haddasu wella’ch gallu i ddarparu gofal Dementia cadarnhaol, ymatebol a chefnogol.
  • Hyd y cwrs: 50 munud, gan gynnwys cwis asesu

Edrych arno gyda Gofal Dementia 2: Gofal Dementia sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn, bydd y rhain yn ymdrin â holl ofynion Fframwaith Anwytho Cymru Gyfan ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Gofal Dementia 2:  Gofal Dementia sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn

Manylion modiwl Gofal Dementia 2:  Gofal Dementia sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn

  • Nodau ac amcanion y cwrs: Mae’r cwrs hwn yn cyflwyno’r rhinweddau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, y dylid eu gweld yn eich arferion o ddydd i ddydd, a sut y gall gwerthoedd sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn a thechnegau wedi’u haddasu wella’ch gallu i ddarparu gofal Dementia cadarnhaol, ymatebol a chefnogol.
  • Hyd y cwrs: 1 awr, gan gynnwys cwis asesu

Edrych arno gyda Gofal Dementia 1: Deall Dementia,  bydd y rhain yn ymdrin â holl ofynion Fframwaith Anwytho Cymru Gyfan ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

I wneud cais am fynediad i’r modiwlau hyn, anfonwch e-bost at hyfforddiant.gc@conwy.gov.uk gan nodi enw’r unigolyn, enw’r sefydliad, cyfeiriad e-bost personol a theitl y modiwl(au).

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content