Os ydych chi’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol plant yng Nghonwy, canfyddwch sut i gymryd rhan mewn sesiwn hyfforddi er mwyn gallu ychwanegu apiau Mind of My Own at eich pecyn gwaith.
Dyma gyflwyniad fideo byr iawn i apiau Mind Of My Own.
Beth yw Mind of My Own?
Mae Mind Of My Own yn creu apiau sy’n ei gwneud hi’n haws i blant a phobl ifanc fynegi eu barn ac i weithwyr ddangos tystiolaeth o'r farn honno. Mae dros 100 o sefydliadau eisoes yn defnyddio apiau Mind Of My Own yn llwyddiannus i ddangos tystiolaeth o farn y bobl ifanc sy'n defnyddio eu gwasanaethau.
Mae yna ddwy nodwedd – ap “One” ac “Express”. Mae ap One yn helpu pobl ifanc i gyfleu eu barn mewn ffordd sy’n gweddu iddyn nhw. Mae pobl ifanc yn creu eu cyfrif eu hunain ar yr ap One, y gellir ei ddefnyddio ar unrhyw ddyfais. Mae Express yn ap hygyrch i blant iau a phlant ag anghenion ychwanegol fynegi eu barn. Dim ond drwy gyfrif gweithiwr y gellir defnyddio ap Express.
Sut i ddefnyddio Mind of My Own?
Bydd Mind of my Own yn eich helpu yn eich gwaith gyda phobl ifanc mewn sawl ffordd!
- Ymweliad ar y gweill? Gofynnwch i’r person ifanc gwblhau’r senario “Mae fy ngweithiwr yn ymweld” ymlaen llaw.
- Dod i adnabod unigolyn ifanc newydd? Gofynnwch iddyn nhw gwblhau datganiad “Dyma fi” neu ddatganiad “Lles”.
- Paratowch ymlaen llaw ar gyfer adolygiad plant sy'n derbyn gofal neu gynhadledd amddiffyn plant, er mwyn sicrhau bod barn y plentyn yn cael ei chlywed.
- Gall pobl ifanc rannu eu newyddion da gyda chi.
Beth mae pobl ifanc yn ei ddweud am Mind Of My Own?
“Mae siarad yn y ffordd yma gymaint haws i mi – mae’n chwyldroadol.”
Cara, 16, plentyn mewn angen
"Fe wnaeth i mi feddwl drosof fy hun. Ap da iawn ac yn hawdd iawn ei ddefnyddio."
Becky, 15, mewn gofal
Sesiynau hyfforddiant
Os ydych chi'n newydd i Gonwy, neu efallai yr hoffech chi gael sesiwn gloywi, mae yna sesiynau hyfforddi misol i'ch helpu chi i gychwyn gyda Mind of my Own.
Ble alla' i gael mwy o wybodaeth?
I gael mwy o wybodaeth am apiau Mind Of My Own, ewch i'r wefan Mind of My Own.
Gallwch chi hefyd ofyn i Alan Thompson, ein Harweinydd Gweithredol yng Nghonwy, os oes gennych unrhyw gwestiynau am sut mae’r apiau’n cael eu defnyddio yn ein gwasanaethau
Darllenwch y Safonau Ymarfer sy’n cefnogi defnydd Mind Of My Own, ac yn amlinellu’r hyn a ddisgwylir gan weithwyr a gofalwyr ar draws yr Awdurdod.
Dolenni allweddol
Dyma’r prif ddolenni y byddwch eu hangen i ddefnyddio Mind of my Own.
Awgrym: Crëwch eich nod tudalen eich hun, neu lwybr byr ar eich bwrdd gwaith i'ch tudalen Cyfrif Gweithiwr!
Lle i Ymarferwyr
Dyma lle gallwch chi ymarfer gyda’ch “Proffil Prawf”, a gallwch osod proffiliau ar gyfer eich pobl ifanc.
Ap One
Dyma brif ap One. Gall pobl ifanc greu eu cyfrifon eu hunain.
Express
Ap Express, ar gyfer plant iau a phlant gydag anghenion dysgu ychwanegol.
Porth Gwasanaeth
Dyma lle mae staff cymorth busnes yn rheoli’r holl wybodaeth sy’n dod i mewn, ac yn anfon datganiadau ymlaen at y gweithwyr cywir.