Mae’r cwrs hwn ar gyfer staff mewnol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn unig.
Dyddiadau
- 2024: 20 Mehefin, 20 Tachwedd
Manylion y cwrs
- Amser: 9:30am tan 12:30pm (9:15am cyrraedd ar gyfer te/coffi a chofrestru)
- Lleoliad: Coed Pella, Bae Colwyn
- Hyffordwr: Tîm Datblygu a Dysgu Gweithlu Conwy
- Gwasanaethau targed: Busnes a Thrawsnewid, Lles Cymunedol, Tîm Anableddau, Pobl Hŷn a Gwaith Cymdeithasol Ysbytai, Safonau Ansawdd, Tîm Pobl Ddiamddiffyn
- Grŵp targed: Mae hwn yn hyfforddiant gorfodol ar gyfer Gweithwyr Cymdeithasol, Swyddogion Asesu ac Adolygu a Therapyddion Galwedigaethol ar draws Gwasanaethau Pobl Hŷn ac Anableddau, Gwasanaethau Lles Meddyliol a Phobl Ddiamddiffyn
Nodau ac amcanion y cwrs
Bydd y cwrs yn trafod:
- Proses Asesiad Ariannol ar gyfer gofal preswyl a gofal yn y cartref
- Cynnal sgyrsiau cadarn am godi tâl am ofal
- Gofynion cyfreithiol ac adennill dyledion
- Cais am adolygu proses codi tâl a pholisi diwygiedig
- Llys Gwarchod a Diogelu
- Cyfeirio at Reoli Dyledion a Chyngor
- Cyfle am sesiwn holi ac ateb
Bydd rhai sy'n dod ar y cwrs yn gadael gyda hyder i gael sgyrsiau cadarn gydag unigolion, eu teuluoedd neu ofalwyr am godi tâl am ofal.
Am fwy o wybodaeth, neu os ydych wedi archebu lle ar y cwrs ond heb dderbyn hysbysiad i fynd arno, cysylltwch â’r Tîm Gweinyddol Datblygu’r Gweithlu a Dysgu. Peidiwch â mynd ar unrhyw gwrs oni bai’ch bod wedi cael hysbysiad yn cadarnhau bod lle i chi oherwydd mae’n bosib' y bydd y digwyddiad yn llawn.