Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Hyfforddiant Dysffagia


Summary (optional)
start content

Dyddiadau

  • 2024:
    • 30 Medi, 21 Hydref: 1pm tan 4:30pm (12:45pm cyrraedd ar gyfer te/coffi a chofrestru)
    • 21 Hydref: 9:30am tan 12:30pm (9:15am cyrraedd ar gyfer te/coffi a chofrestru)
  • 2025:
    • 3 Mawrth: 1pm tan 4:30pm (12:45pm cyrraedd ar gyfer te/coffi a chofrestru)

Manylion y cwrs

  • Lleoliad: Coed Pella, Bae Colwyn
  • Hyfforddwr: Training with Hart
  • Gwasanaethau targed: Lles Cymunedol, Tîm Anableddau, Cefnogaeth ac Ymyraethau i Deuluoedd, Plant sy'n Derbyn Gofal, Gwasanaethau a Gomisiynir (PIVs), Safonau Ansawdd, Tîm Pobl Ddiamddiffyn, Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid. Gofalwyr Maeth
  • Grŵp targed: Ar agor i unrhyw un sydd â diddordeb mewn dysgu am ddysffasia

Nodau ac amcanion y cwrs

  • Diffinio Dysffagia
  • Archwilio anatomeg a ffisioleg y swyddogaeth llyncu
  • Deall Dysffagia Geneuol, Dysffagia Ffaryngeal a Dysffagia’r Llwnc
  • Nodi achosion, arwyddion, symptomau a chanlyniadau posibl Dysffagia
  • Trosolwg o glefyd adlif gastro-oesoffagaidd (GERD)
  • Archwilio sut y gwneir diagnosis Dysffagia, triniaethau posibl a chefnogaeth
  • Rhestru unigolion allweddol sy’n ymwneud â diagnosis a gofal Dysffagia
  • Nodi dulliau gofalu a chefnogi unigolion gyda Dysffagia


Bydd y Cwrs Ymwybyddiaeth o Ddysffagia yn gwella ymwybyddiaeth staff o ddysffagia; gan edrych ar anatomeg y swyddogaeth llyncu. Mae’n edrych ar sut gall problemau llyncu effeithio ar unigolion a’r problemau y gall hynny achosi. Mae’r cwrs hefyd yn archwilio’r International Dysphagia Diet Standardisation Initiative. Mae’r cwrs rhyngweithiol hwn yn defnyddio gweithgareddau ymarferol i helpu staff feddwl am ffyrdd i gefnogi unigolion i fwyta a llyncu, gan hyrwyddo annibyniaeth yr unigolyn.

Am wybodaeth bellach, neu os ydych wedi archebu lle ar y cwrs a heb dderbyn hysbysiad i fynychu cysylltwch â’r Tîm Gweinyddol Dysgu a Datblygu’r Gweithlu. Peidiwch â mynychu unrhyw gwrs oni bai’ch bod wedi derbyn hysbysiad yn cadarnhau bod lle i chi oherwydd mae’n bosibl y bydd y digwyddiad yn llawn.

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content