Dyddiadau
- 2024: 27 & 28 Tachwedd 2024
Manylion y cwrs
- Amser: 9:15am cyrraedd ar gyfer te/coffi a chofrestru. 9.30am - 16.30pm
- Lleoliad: Coed Pella, Bae Colwyn
- Hyfforddwr: Tîm Trawsnewid Anableddau Dysgu Gogledd Cymru
- Gwasanaethau targed: Busnes a Thrawsnewid, Gweithwyr Cymdeithasol Pobl Hŷn ac Ysbytai, Lles Cymunedol, Safonau Ansawdd, Tîm Anableddau, Tîm Pobl Ddiamddiffyn, Cymorth i Deuluoedd ac Ymyriadau, y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid, Plant sy’n Derbyn Gofal, Gofalwyr Maeth, Gwasanaethau a Gomisiynir (Preifat, Annibynnol a Gwirfoddol).
- Grŵp targed: Staff sy’n darparu cefnogaeth uniongyrchol i bobl ag anableddau dysgu, Rheolwyr gwasanaethau cymorth a gofal, Gweithwyr proffesiynol statudol neu yn y trydydd sector, rhieni sy’n ofalwyr, eiriolwyr, gweithwyr cymorth tai ac unrhyw bobl eraill sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am y cysyniad, yr egwyddorion a ffyrdd o ddefnyddio’r dull.
Nodau ac amcanion y cwrs
Trosolwg manwl ar ddeall a defnyddio adnoddau cynllunio craidd sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Bydd hynny’n cynnwys Proffiliau un tudalen, Gweithio/Ddim yn Gweithio, Siartiau cyfathrebu, Trefniadau gwneud penderfyniadau, cofnodion dysgu, Paru staff, Cwestiynau 4 ac 1, Cylchoedd perthnasoedd a llunio Cynllun Cefnogi sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.
Bydd y sesiwn yn trafod: Deall anghenion a dymuniadau hanfodol a dewisol dinasyddion a llunio cynllun cefnogi sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.
Am wybodaeth bellach, neu os ydych wedi archebu lle ar y cwrs a heb dderbyn hysbysiad i fynychu cysylltwch â’r Tîm Gweinyddol Dysgu a Datblygu’r Gweithlu. Peidiwch â mynychu unrhyw gwrs oni bai’ch bod wedi derbyn hysbysiad yn cadarnhau bod lle i chi oherwydd mae’n bosibl y bydd y digwyddiad yn llawn.