Manylion y cwrs:
Dyddiad | Amser | Lleoliad | Hyfforddwr | Grŵp targed |
Dydd Iau, Hydref 2024 |
9:15am cyrraedd ar gyfer cofrestru
9.30am - 16.30pm |
ZOOM |
Siobhan MacLean |
Gwasanaethau Targed – Lles Cymunedol, Tîm Anabledd, Cymorth ac Ymyrraeth i Deuluoedd, Plant sy'n Derbyn Gofal, Gwasanaethau a Gomisiynir, Pobl Hŷn a Gwaith Cymdeithasol Ysbyty, Safonau Ansawdd, Tîm Pobl Ddiamddiffyn, Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid
Grŵp Targed – Ymarferwyr, rheolwyr a staff cefnogi mewn Gwasanaethau Plant ac Oedolion sy'n rhan o asesu ac ysgrifennu adroddiadau |
Nodau ac amcanion y cwrs:
Mae cadw cofnodion yn agwedd hanfodol o arferion gwaith cymdeithasol ac mae hyn yn gofyn i ymarferwyr ddatblygu sgiliau dadansoddi.
Bydd y sesiwn yn archwilio natur dadansoddi - fel cynnyrch a phroses.
Bydd yn defnyddio’r fframwaith Beth? Pam? Sut? i ystyried y cwestiynau canlynol:
- Beth yw dadansoddi?
- Pam fod dadansoddi yn bwysig i gofnodi ac adrodd?
- Sut allwn ni ddatblygu sgiliau dadansoddi?
Bydd offer penodol i alluogi symudiad o’r naratif (dweud stori) i’r dadansoddiad, yn cael ei rannu a bydd gan y cyfranogwyr gyfle i roi cynnig ar y rhain.
Mae’r offer hyn yn cynnwys SHARE, triongli a SCOPE.
Am wybodaeth bellach, neu os ydych wedi archebu lle ar y cwrs a heb dderbyn hysbysiad i fynychu cysylltwch â’r Tîm Gweinyddol Datblygu’r Gweithlu a Dysgu. Peidiwch â mynychu unrhyw gwrs oni bai’ch bod wedi derbyn hysbysiad yn cadarnhau bod lle i chi oherwydd mae’n bosibl y bydd y digwyddiad yn llawn.