Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Gofal Cymdeithasol a Lles Datblygu ac Addysgu Gweithlu Digwyddiadau dysgu Datblygu ymarfer Dementia – DIET (Dining Immersive Experiential Training), hyfforddiant sy'n cwmpasu pob agwedd ar fwyta a hynny drwy brofiadau

Dementia – DIET (Dining Immersive Experiential Training), hyfforddiant sy'n cwmpasu pob agwedd ar fwyta a hynny drwy brofiadau


Summary (optional)
start content

Dyddiadau

  • 2025: 11 Chwefror

Manylion y cwrs

  • Amser: 10:00am tan 16:30pm (9:45am cyrraedd ar gyfer te/coffi a chofrestru)
  • Lleoliad: Coed Pella, Bae Colwyn
  • Hyfforddwr: Training 2 Care
  • Gwasanaethau targed: Lles Cymunedol, Tîm Anableddau, Gwasanaethau a Gomisiynir (PIVs), Tîm Pobl Ddiamddiffyn.
  • Grŵp targed: Byddai’n rhaid i fynychwyr weithio mewn tîm lle mae dysgu am Ddementia’n bwysig i’w swydd.

Nodau ac amcanion y cwrs

Mae DIET yn gwrs hyfforddi 6 awr sy’n cyfuno elfennau o ddysgu trwy brofiad, dysgu yn yr ystafell ddosbarth a thrafodaethau grŵp i helpu dysgwyr i ddeall rhai o’r anawsterau y gallai pobl â dementia eu hwynebu yn ystod amser bwyd.

Fel rhywun sy’n cymryd rhan yng nghwrs DIET, byddwch chi’n ymchwilio i amrywiaeth o ffactorau a allai ddylanwadu ar y bwyd y mae pobl yn ei fwyta a’r hylif y mae pobl yn ei yfed, yn gadarnhaol ac yn negyddol, ac yn darganfod ffyrdd o gefnogi pobl i fwyta ac yfed.

Mae DIET yn ymwneud â gwella’ch dealltwriaeth ac edrych ar ffyrdd newydd o gefnogi pobl a’r nod yw cynyddu faint o fwyd a diod y mae pobl yn ei fwyta/yfed a sicrhau bywyd gwell iddynt.

Canlyniad Dysgu

Dogfennau - Deall pwysigrwydd dogfennau mewn perthynas ag amser bwyd a sut gellir eu defnyddio i gefnogi pobl â’r bwyd y maent yn ei fwyta a’r hylif y maent yn ei yfed.

Y Synhwyrau a Dementia - Deall sut gall materion synhwyraidd amrywiol sy’n gysylltiedig â dementia gael effaith ar y bwyd y mae pobl yn ei fwyta a’r hylif y mae pobl yn ei yfed.

Agnosia a Bwyd - Deall beth yw agnosia a’r problemau mae’n gallu eu hachosi o ran adnabod bwyd a diod.

Anhwylderau Cyfathrebu - Deall sut gall anhwylderau cyfathrebu gael effaith ar allu unigolyn i ddarllen bwydlenni neu wneud dewisiadau bwyd a diod.

Offer Addasol - Archwilio gwahanol fathau o offer addasol y gellir eu defnyddio ar gyfer amser bwyd, pam eu bod yn cael eu defnyddio a nodi rhwystrau a ffyrdd i’w goresgyn.

Yr Ardal Fwyta - Deall sut gall gormod o flerwch yn yr ardal fwyta achosi problemau i bobl gyda dementia yn ystod amser bwyd, a sut i greu ardaloedd bwyta cynhwysol o ran dementia.

Cefnogi Unigolion i Fwyta - Deall pwysigrwydd safle eistedd a dysgu technegau i helpu pobl i fwyta.

Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn, bydd cynrychiolwyr yn meddu ar y sgiliau a’r wybodaeth i:

  • Fagu perthnasau mwy cadarnhaol a ffyddiog gydag unigolion sy’n byw â dementia
  • Cydnabod yr ystod o wahanol anawsterau y gall unigolion eu hwynebu o ran amser bwyd a darparu cefnogaeth sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn mewn perthynas â bwyta ac yfed.
  • Gwell dealltwriaeth o’r offer addasol a ddefnyddir a gweithio tuag at oresgyn rhwystrau posibl wrth gyflwyno offer newydd i unigolyn.
  • Addasu eu dull wrth gefnogi pobl â dementia i fwyta ac yfed drwy fod yn fwy ymwybodol o’u hymddygiad eu hunain a sut gallai hyn effeithio ar y pethau y mae pobl yn ei fwyta a’r hylif y maent yn ei yfed.
  • Gwella ansawdd y gefnogaeth mae pobl yn ei chael drwy gael gwell dealltwriaeth o’u hanghenion a’u gofynion
  • Gallu ystyried yr amgylchedd bwyta a nodi newidiadau cadarnhaol y gellir eu gwneud i wella amser bwyd

Am wybodaeth bellach, neu os ydych wedi archebu lle ar y cwrs a heb dderbyn hysbysiad i fynychu cysylltwch â’r Tîm Gweinyddol Dysgu a Datblygu’r Gweithlu. Peidiwch â mynychu unrhyw gwrs oni bai’ch bod wedi derbyn hysbysiad yn cadarnhau bod lle i chi oherwydd mae’n bosibl y bydd y digwyddiad yn llawn.

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content