Manylion y Cwrs:
Cyflwyniad i Arweinyddiaeth Dosturiol
Dyddiad | Amser | Lleoliad | Hyfforddwr | Gwasanaethau Targed | Grŵp Targed |
28 Ionawr 2025 |
13:15 cyrraedd ar gyfer te/coffi a chofrestru 13.30 - 16.30 |
Coed Pella |
Gofal Cymdeithasol Cymru |
Busnes a Thrawsnewid, Pobl Hŷn, Lles Cymunedol, Safonau Ansawdd, Tîm Anableddau, Tîm Pobl Ddiamddiffyn, Cymorth i Deuluoedd ac Ymyriadau, y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid, Plant sy'n Derbyn Gofal, Gofalwyr Maeth, Gwasanaethau a Gomisiynir |
yr holl wasanaethau |
Nodau ac Amcanion y Cwrs:
Yn y sesiwn hwn byddwn yn trafod mor bwysig yw tosturi er mwyn cyflawni canlyniadau gwell, hybu lles staff a gwella diwylliant y sefydliad.
Yn ystod y sesiwn, byddwn yn:
- dysgu am y mathau o ymddygiad sy’n gyson ag arweinyddiaeth dosturiol
- deall y gwahaniaeth y gall arweinyddiaeth dosturiol ei wneud
- trafod dulliau ymarferol o roi egwyddorion arweinyddiaeth dosturiol ar waith
Am wybodaeth bellach, neu os ydych wedi archebu lle ar y cwrs a heb dderbyn hysbysiad i fynychu cysylltwch â’r Tîm Gweinyddol Datblygu’r Gweithlu a Dysgu. Peidiwch â mynychu unrhyw gwrs oni bai’ch bod wedi derbyn hysbysiad yn cadarnhau bod lle i chi oherwydd mae’n bosibl y bydd y digwyddiad yn llawn.