Manylion y cwrs:
Bydd mynychwyr yn ymuno â dosbarth ar-lein ac yn cwblhau llyfr gwaith a fydd yn cael ei asesu.
Caiff y cwrs ei asesu drwy gwblhau llyfr gwaith ar-lein.
Bydd unigolion sy’n cwblhau’r cwrs hwn yn cael tystysgrif coleg
Dyddiad | Amser | Lleoliad | Hyfforddwr | Grŵp targed |
28 Ionawr 2021 |
9.00 - 16:00 |
Ar-lein |
Coleg Llandrillo |
Gwasanaethau Targed - Pob Un Grŵp Targed - mae'r cwrs hwn ar gyfer staff gofal newydd, neu staff nad ydynt wedi cael unrhyw hyfforddiant Ymwybyddiaeth Dementia o'r blaen ac sydd o bosibl yn eu gwaith yn dod i gysylltiad ag unigolion sy'n byw â Dementia. |
11 Chwefror 2021 |

18 Mawrth 2021 |

Nodau ac amcanion y cwrs:
Canlyniadau Dysgu
- 1. Deall beth yw dementia
- 1.1 Egluro beth a olygir gan y term ‘dementia’
- 1.2 Disgrifio prif swyddogaethau’r ymennydd y mae dementia’n effeithio arnynt
- 1.3 Egluro pam y gellir camgymryd iselder, deliriwm ac amhariad ar y cof cysylltiedig ag oedran am ddementia
- 2. Deall nodweddion allweddol y modelau damcaniaethol o ddementia
- 2.1 Amlinellu’r model meddygol o ddementia
- 2.2 Amlinellu’r model cymdeithasol o ddementia
- 2.3 Egluro pam y dylid ystyried dementia yn anabledd
- 3. Gwybod beth yw’r mathau mwyaf cyffredin o ddementia a’u hachosion
- 3.1 Rhestru achosion mwyaf cyffredin dementia
- 3.2 Disgrifio arwyddion a symptomau tebygol yr achosion dementia mwyaf cyffredin
- 3.3 Amlinellu’r ffactorau risg ar gyfer yr achosion dementia mwyaf cyffredin
- 3.4 Dynodi pa mor gyffredin yw gwahanol fathau o ddementia yn digwydd
- 4. Deall y ffactorau cysylltiedig â phrofiad unigolyn o ddementia
- 4.1 Disgrifio sut y gall gwahanol unigolion brofi byw gyda dementia yn dibynnu ar eu hoed, y math o ddementia a lefel eu gallu a’u hanallu.
- 4.2 Amlinellu'r effaith y gallai agweddau ac ymddygiadau eraill ei gael ar unigolyn â dementia.
Am wybodaeth bellach, neu os ydych wedi archebu lle ar y cwrs a heb dderbyn hysbysiad i fynychu cysylltwch â’r Tîm Gweinyddol Dysgu a Datblygu’r Gweithlu. Peidiwch â mynychu unrhyw gwrs oni bai’ch bod wedi derbyn hysbysiad yn cadarnhau bod lle i chi oherwydd mae’n bosibl y bydd y digwyddiad yn llawn.