Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Cynnal asesiadau galluedd meddyliol i weithwyr proffesiynol


Summary (optional)
start content

Dyddiadau

  • 2024:  1 Awst,  10 Hydref
  • 2025:  9 Ionawr

Manylion y cwrs

  • Amser:  9:30am tan 4:30pm  (9:15am cyrraedd ar gyfer te/coffi a chofrestru)
  • Lleoliad:  Coed Pella, Bae Colwyn
  • Hyfforddwr:  Alys Jones, Uned Diogelu Conwy
  • Gwasanaethau targed:  Tîm Anableddau, Cymorth i Deuluoedd ac Ymyrraeth, Pobl Hŷn a Gwaith Cymdeithasol Ysbyty, Y Tîm Pobl Ddiamddiffyn 
  • Grŵp targed:  Mae'r sesiynau ar gyfer unrhyw weithwyr proffesiynol sy'n gweithio yng Ngwasanaethau Cymdeithasol Conwy gydag oedolion mewn gofal cymdeithasol ac iechyd sydd angen cynnal  asesiadau galluedd

Nodau ac amcanion y cwrs

Nod y sesiwn yw arfogi’r rhai sy’n mynychu i ddefnyddio fframwaith cyfreithiol y Ddeddf Galluedd Meddyliol i’r arfer o asesu gallu unigolyn.

Mae’r sesiynau ar gyfer unrhyw weithwyr proffesiynol sy’n gweithio gydag oedolion mewn gofal cymdeithasol ac iechyd.

Cynnwys y cwrs:

  • Trosolwg byr o’r fframwaith cyfreithiol a chyfraith achos perthnasol.
  • Sgiliau ymarferol i baratoi at Asesiadau Galluedd Meddyliol a’u cynnal.
  • Deall a defnyddio’r asesiad gweithredol a diagnostig.
  • Sgiliau triongli gwybodaeth er mwyn dadansoddi a dod i gasgliadau am alluedd.
  • Defnyddio’r cysylltiad achosol.
  • Hwyluso trafodaeth am gymhlethdodau Galluedd Meddyliol.
  • Cyfeirio at adnoddau defnyddiol.

Am wybodaeth bellach, neu os ydych wedi archebu lle ar y cwrs a heb dderbyn hysbysiad i fynychu cysylltwch â’r Tîm Gweinyddol Datblygu’r Gweithlu a Dysgu.  Peidiwch â mynychu unrhyw gwrs oni bai’ch bod wedi derbyn hysbysiad yn cadarnhau bod lle i chi oherwydd mae’n bosibl y bydd y digwyddiad yn llawn.

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content