Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Straen Trawmatig Eilaidd


Summary (optional)
start content

Dyddiadau

Sesiynau wyneb yn wyneb

  • Dyddiadau:
    • 2024:  2 Mai, 17 Hydref
    • 2025:  3 Mawrth
  • Amser:  9:30am tan 12:30pm
  • Lleoliad:  Coed Pella, Bae Colwyn

Sesiynau ar-lein

  • Dyddiadau ac amserau:
    • 2024:  27 Mehefin, 9:30am tan 12:30pm;  17 Hydref, 1:30pm tan 4:30pm
  • Lleoliad: Ar-lein

Manylion y cwrs

  • Gwasanaethau targed:  Pob Gwasanaeth
  • Grŵp targed:  Sector cyfan 

Nodau ac amcanion y cwrs

Mae staff y Gwasanaethau Cymdeithasol yn agored i brofiadau a straeon trawmatig gan eraill o hyd.  Mae straen trawmatig eilaidd yn gallu digwydd yn sydyn, tra bo trawma mechnïol yn gynyddol, ond mae’r ddau yn ymateb i ddod i gysylltiad â hyn.

Nid oes modd i ni ddiogelu ein hunain yn llwyr gan barhau i fod yn dosturiol, ond gallwn ddysgu am ffyrdd i gefnogi ein hunain yn well, fel unigolion ac fel sefydliad.

Bydd y cwrs yn trafod:

  • Sut mae trawma yn cyflwyno ei hun a sut gall fod yn heintus.
  • Ymatebion ymdopi’r ymennydd a’r corff i straen llethol.
  • Y gwahaniaethau rhwng trawma mechnïol a thrawma eilaidd, gan adnabod yr arwyddion yn eich hun a’ch cydweithwyr.
  • Deall pwysigrwydd adeiladu eich capasiti eich hun i symud drwy ymatebion i straen.
  • Cyfrifoldebau unigol a sefydliadol.
  • Llunio eich cynllun gofal eich hun.

Am wybodaeth bellach, neu os ydych wedi archebu lle ar y cwrs a heb dderbyn hysbysiad i fynd, cysylltwch â’r Tîm Gweinyddol Datblygu’r Gweithlu a Dysgu.  Peidiwch â mynd i unrhyw gwrs oni bai’ch bod wedi derbyn hysbysiad yn cadarnhau bod lle i chi oherwydd mae’n bosibl y bydd y digwyddiad yn llawn.

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content