Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Impact of Abuse and Neglect on Children and Young People


Summary (optional)
start content

Dyddiadau

  • 2024:  9 Mai
  • 2025:  10 Chwefror

Manylion y cwrs

  • Amser:  9:30am tan 4pm
  • Lleoliad:  Coed Pella, Bae Colwyn
  • Hyfforddwr:  Barbara Lyons
  • Gwasanaethau targed:  Lles Cymunedol, Tîm Anabledd, Cefnogi Teuluoedd ac Ymyrraeth, Plant sy’n Derbyn Gofal, Gwasanaethau a Gomisiynir, Tîm Pobl Ddiamddiffyn, Gofalwyr Maeth, Glan yr Afon
  • Grŵp targed:  Byddai’r cwrs hwn yn fuddiol i holl weithwyr proffesiynol sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda phlant a phobl ifanc, gan gynnwys:  Gofalwyr Maeth, Gweithwyr Cymdeithasol (yn arbennig y rhai yn eu 3 blynedd cyntaf o ymarfer), Gweithwyr Ymyriad Teuluol, staff preswyl

Nodau ac amcanion y cwrs

Mae tystiolaeth yn dangos os yw rhieni’n ymgolli eu hunain mewn problemau sy’n arwain at eithrio tasgau, perthnasoedd neu faterion eraill, mae'n debygol na fyddant ar gael ddigon i gyflawni'r dasg o fagu eu plant neu byddant yn methu â diwallu anghenion eu plant.  Bydd y cwrs undydd hwn yn archwilio'r effeithiau andwyol y bydd hyn yn ei gael ar blant.

Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn:

  • Deall ffactorau risg i rieni megis problemau alcohol neu gyffuriau, cam-drin domestig, tlodi, salwch meddwl, trawma a thai gwael, a sut y mae’r rhain yn dylanwadu ar ei gilydd ac yn peryglu gallu’r rhieni i fagu eu plant
  • Ystyried y profiad hwn o safbwynt y plentyn
  • Archwilio ym mha ffyrdd yr effeithir ar y plant
  • Cael gwell dealltwriaeth o rai mathau o ymddygiad a welir mewn plant sy'n cael eu cam-drin, eu hesgeuluso neu sydd wedi profi trawma.

Am wybodaeth bellach, neu os ydych wedi archebu lle ar y cwrs a heb dderbyn hysbysiad i fynd ar y cwrs cysylltwch â’r Tîm Gweinyddol Datblygu’r Gweithlu a Dysgu.  Peidiwch â mynd ar unrhyw gwrs oni bai eich bod wedi derbyn hysbysiad yn cadarnhau bod lle i chi oherwydd mae’n bosibl y bydd y digwyddiad yn llawn.

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content