Rydym yn cymryd eich preifatrwydd o ddifrif a dim ond i brosesu eich cais/ymholiad ac i ddarparu'r wybodaeth a'r gwasanaethau rydych chi wedi gofyn i ni amdanyn nhw y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol.
Er mwyn i chi gael gwybodaeth ac/neu gymorth gan Conwy Cynhaliol - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, byddwn yn cofnodi eich gwybodaeth bersonol. Heb eich gwybodaeth bersonol mae’n bosib na fyddwn yn gallu darparu’r wybodaeth/gwasanaeth rydych chi wedi gofyn amdanyn nhw.
Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon yn y ffyrdd a ganlyn:
- i’n helpu i ddelio â’ch ymholiad;
- i’n helpu i brosesu cais am grant;
- i’ch galluogi i gael gafael ar gynnyrch a gwasanaethau perthnasol, e.e. GRANTfinder; Cymorth i Fusnesau;
- i gyfathrebu â chi;
- i brosesu trafodion ariannol ar gyfer grantiau sy’n ymwneud yn uniongyrchol â ni; ac
- i’n galluogi i wella ansawdd ein gwasanaethau.
Mae’n bosib y byddwn yn datgelu gwybodaeth bersonol i adrannau eraill y Cyngor at ddibenion dilysu cais am grant neu ganfod cyfleoedd eraill i gael cyllid.
Mae’n bosib y byddwn yn datgelu gwybodaeth bersonol i drydydd parti, ond dim ond:
- pan fo’n ofynnol dan y gyfraith; neu
- pan mae’n cael ei ganiatáu fel arall dan ddeddfwriaeth Diogelu Data.
Nodwch:
‘Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i’r Cyngor warchod y cyllid cyhoeddus y mae’n ei weinyddu, ac felly gall ddefnyddio unrhyw wybodaeth rydych wedi ei rhoi i atal, canfod ac ymchwilio i dwyll ac anghysonderau, ar gyfer cyflawni contract neu dasg a gyflawnir er lles y cyhoedd, neu i gydymffurfio ag ymrwymiad cyfreithiol. Rhan 6 Deddf Archwilio ac Atebolrwydd Lleol 2014 a Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) yw’r sail Gyfreithiol.’
Am ba hyd y byddwn yn cadw eich gwybodaeth
Byddwn yn cadw eich gwybodaeth am 10 mlynedd wedi diwedd Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig (Ar hyn o bryd yn dod i ben ym mis Rhagfyr 2021).
Eich hawliau gwybodaeth
I gael manylion llawn am eich hawliau gwybodaeth, darllenwch Hysbysiad Preifatrwydd Llawn Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn: https://www.conwy.gov.uk/hysbysiadaupreifatrwydd
Mae eich hawliau gwybodaeth ar gyfer y gwasanaeth hwn wedi’u nodi isod:
Mae gennych hawl i
- weld y data rydym yn ei gadw;
- cywiro unrhyw anghywirdebau;
- cyfyngu’r defnydd o’r wybodaeth rydym yn ei chadw amdanoch os ydych wedi codi gwrthwynebiad, tra bo’ch gwrthwynebiad yn cael ei ymchwilio; a
- gofyn i ni ddileu cofnodion rydym yn eu cadw amdanoch chi, ar wahân i wybodaeth sy’n cefnogi ceisiadau am grant, cyn y cyfnod a nodir uchod.
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â ni:
Conwy Cynhaliol
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Glasdir
Plas yn Dre
Llanrwst
LL26 0DF
E-bost: conwylocalactiongroup@conwy.gov.uk
Os nad ydych yn hapus gyda’r ymateb a gewch gennym, mae hawl gennych i wneud cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yn:
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth Cymru
2il Lawr
Tŷ Churchill
Ffordd Churchill
Caerdydd
CF10 2HH
Rhif Ffôn: 029 2067 8400
Ffacs: 029 2067 8399
E-bost: wales@ico.org.uk
Gwefan: ico.org.uk
Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Gorffennaf 2018