Mae’r hysbysiad preifatrwydd canlynol yn berthnasol i’r Adran Rheoli Asedau ac Ystadau, yn arbennig mewn perthynas â chaffael a gwaredu tir ac eiddo a rheoli a gosod tir ac eiddo gan y Cyngor i drydydd partïon / unigolion, a phan fydd yr Adran Rheoli Asedau ac Ystadau yn bwynt cyswllt cyntaf.
Pwrpas ar gyfer Prosesu a Sail Gyfreithiol
Mae angen prosesu er mwyn gallu darparu’r gwasanaeth gofynnol i chi. Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth i wella’n gwasanaeth lle bo hynny’n bosibl, heb ddatgelu pwy ydych chi.
Bydd angen prosesu hefyd er mwyn perfformio contract posibl gyda chi ac i warchod eich buddiannau hanfodol, y Cyngor a/neu unrhyw unigolyn arall wrth greu’r contract hwnnw.
Heb fanylion penodol mae’n bosibl na fyddwn yn gallu darparu’r gwasanaeth i chi.
Gwybodaeth a Gesglir
Mae’n bosibl y cesglir y wybodaeth ganlynol:
- Enw
- Manylion Cyswllt
- Manylion ariannol
Gyda phwy y gallwn rannu’r wybodaeth hon?
- Gwasanaethau eraill (gan gynnwys Cynghorwyr) yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
- Y Gofrestrfa Tir
- Cynghorau Sir / Bwrdeistref / Dosbarth / Tref Eraill
- Sefydliadau Ariannol (e.e. banciau, cymdeithasau tai, asiantaethau ymchwilio i statws credyd)
- Cyfreithwyr
- Gweithwyr proffesiynol eraill sy’n ymdrin ag eiddo
Am ba hyd y byddwn yn cadw eich gwybodaeth?
Byddwn yn cadw’ch gwybodaeth am hyd ein contract / cytundeb gyda chi. Byddwn yn parhau i gadw’ch gwybodaeth ar ôl terfynu ein contract / cytundeb gyda chi am gyfnod o 12 mlynedd AR Ôl i’r Cyngor ryddhau ei fudd cyfreithiol yn y tir neu’r eiddo yr oedd contract / cytundeb mewn lle ar ei gyfer.
A yw darparu data personol yn rhan o ofynion neu rwymedigaethau statudol neu gontract a beth yw canlyniadau posibl methu â darparu’r data personol.
Bydd darparu data personol yn un o rwymedigaethau'r contract. Os methwch â darparu data personol mae’n bosibl na fydd y Cyngor yn gallu darparu’r gwasanaeth gofynnol i chi.
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy – Hysbysiad Preifatrwydd Llawn
Mae copi o Hysbysiad Preifatrwydd Llawn Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar gael ar wefan y Cyngor, gweler: www.conwy.gov.uk/hysbysiadaupreifatrwydd
Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i’r Cyngor warchod y cyllid cyhoeddus y mae’n ei weinyddu, ac felly gall ddefnyddio unrhyw wybodaeth rydych wedi ei rhoi i atal, canfod ac ymchwilio i dwyll ac anghysonderau, ar gyfer perfformio contract, neu, dasg a gyflawnir er lles y cyhoedd, neu i gydymffurfio ag ymrwymiad cyfreithiol. Y sail gyfreithio yw Rhan 6 o Ddeddf Archwiliad Lleol ac Atebolrwydd 2014 a Rheoliadau Cyfrifon ac Archwiliadau (Cymru).