Dyddiad Adolygu: Mai 2018
Mae’r hysbysiad preifatrwydd a ganlyn yn berthnasol i Adain Gyfreithiol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, sy’n dod o fewn y Gyfraith a Llywodraethu.
Pwrpas ar gyfer Prosesu a Sail Gyfreithiol
Mae’r Adain Gyfreithiol yn darparu nifer o wasanaethau i adrannau cleientiaid mewnol, cleientiaid allanol, Cynghorwyr ac aelodau’r cyhoedd (materion cynhennus ac anghynhennus). Mae’r prosesu yn angenrheidiol i ddarparu’r gwasanaethau hyn, a allai fod ar unrhyw un o’r seiliau cyfreithiol a ganlyn:
- Mae’n angenrheidiol ar gyfer perfformio tasg a wnaed er budd y cyhoedd neu mewn ymarfer o awdurdod swyddogol a roddir i'r rheolydd
- Mae’n angenrheidiol ar gyfer cydymffurfio gyda rhwymedigaeth gyfreithiol
- Mae’n angenrheidiol i ddiogelu buddiannau hanfodol gwrthrych y data neu unigolyn arall
- Mae’n angenrheidiol ar gyfer pwrpas buddiannau cyfreithlon a ddilynir gan y rheolydd data neu drydydd parti
- Mae’n angenrheidiol ar gyfer perfformiad contract gyda gwrthrych y data
- Caniatâd gwirfoddol gwrthrych y data
Gwybodaeth a Gesglir
Mae’n bosibl y cesglir y wybodaeth ganlynol:
- Enw
- Manylion cyswllt
- Dyddiad Geni
- Rhyw
- Manylion ariannol
- Dulliau adnabod
- Perthynas agosaf, enw a manylion cyswllt
- Manylion euogfarnau troseddol blaenorol
- Asesiadau lles
- Adroddiadau asesu
- Adroddiadau iechyd
Gyda phwy y gallwn rannu eich gwybodaeth
- Gwasanaethau eraill o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy y mae’n angenrheidiol rhannu’r wybodaeth gyda hwy er mwyn i’r Adain Gyfreithiol berfformio ei swyddogaeth o ran eich mater penodol
- Aelodau (Cynghorwyr) Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
- Cofrestrfa Tir Ei Mawrhydi
- Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi
- Awdurdod Refeniw Cymru
- Cyllid a Thollau EM
- CAFCASS
- Cynghorau Sir/Bwrdeistref/Tref neu Gymuned Eraill
- Sefydliadau Ariannol (e.e. banciau, cymdeithasau tai, asiantaethau ymchwilio i statws credyd)
- Cleientiaid allanol
- Cwmnïau cyfreithiol allanol
- Bargyfreithwyr
- Gweithwyr proffesiynol eraill fel cyfrifwyr, archwilwyr, gwerthwyr tai a syrfewyr
- Gwasanaethau Cyfreithiol Gogledd Cymru yn Gweithio ar y Cyd
- Awdurdodau Lleol eraill a chyrff sector cyhoeddus
- Llywodraeth Cymru
- Cymdeithas Llywodraeth Leol
- Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
- Heddlu Gogledd Cymru
- Panel Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru
- Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru
- Archwilwyr allanol
Am ba hyd y byddwn yn cadw eich gwybodaeth
Bydd yr Adain Gyfreithiol yn cadw a dinistrio eich gwybodaeth yn unol â’i Hamserlen Cadw, a gellir ei gweld gan ddefnyddio’r manylion cyswllt isod. Yn dibynnu ar y math o fater, bydd hyn naill ai 6 mlynedd, 12 mlynedd neu 75 mlynedd ar ôl i’r ffeil gael ei chau.
Eich Hawliau
Mae gennych hawl:
I gyrchu’r wybodaeth rydym yn ei chadw amdanoch – gwnewch gais ar-lein neu cysylltwch â ni ar y Manylion Cyswllt isod.
I wneud cais i gywiro unrhyw wybodaeth amdanoch sy’n anghywir – Gellir newid gwallau syml megis newid mewn cyfeiriad, yn dibynnu ar bwrpas ei ddefnydd. Efallai na fydd hi’n bosib newid cofnodion megis datganiadau neu farn, ond bydd dewis i chi ddarparu datganiad ychwanegol, a fydd yn cael ei ychwanegu i'r ffeil.
I wneud cais i ddileu’r cofnodion rydym yn eu cadw amdanoch - gall hyn fod yn gyfyngedig, yn dibynnu ar y sail gyfreithiol.
I gyfyngu’r defnydd o wybodaeth rydym yn ei chadw amdanoch – Os ydych wedi gwrthwynebu, efallai y byddwn yn cyfyngu’r cyfnod ar gyfer prosesu’r wybodaeth hon tra bo’ch gwrthwynebiad yn cael ei ymchwilio.
I wneud cais i gael unrhyw wybodaeth rydych wedi ei darparu i ni yn ôl ar fformat y gallwch ei roi i ddarparwr gwasanaeth arall os oes angen – mae hyn ond yn berthnasol os yw'r wybodaeth rydych wedi ei darparu yn ymwneud â pherfformiad y contract.
I wrthwynebu defnyddio eich gwybodaeth bersonol, yn cynnwys gwneud penderfyniadau awtomatig a phroffilio - ni fydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio ar gyfer gwneud penderfyniadau awtomatig neu broffilio.
I wneud cwyn – gallwch wneud cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth os nad ydych yn hapus gyda sut yr ymdriniwyd â’r wybodaeth amdanoch. Mae manylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn cael eu cynnwys ar Hysbysiad Preifatrwydd Llawn y Cyngor www.conwy.gov.uk/hysbysiadaupreifatrwydd
Manylion Cyswllt Rheolwr Data
Delyth E Jones
Pennaeth y Gyfraith a Llywodraethu
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Bodlondeb
Conwy
LL32 8DU
01492 576210
cyfreithiol@conwy.gov.uk
Swyddog Diogelu Data
Derek O'Connor
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Bodlondeb
Conwy
LL32 8DU
01492 574016 derek.oconnor@conwy.gov.uk
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy – Hysbysiad Preifatrwydd Llawn
Mae copi o Hysbysiad Preifatrwydd Llawn Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar gael ar wefan y Cyngor, gweler y ddolen isod:
www.conwy.gov.uk/hysbysiadaupreifatrwydd
Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i’r Cyngor warchod y cyllid cyhoeddus y mae’n ei weinyddu, ac felly gall ddefnyddio unrhyw wybodaeth rydych wedi ei rhoi i atal, canfod ac ymchwilio i dwyll ac anghysonderau, ar gyfer perfformio contract, neu, dasg a gyflawnir er lles y cyhoedd, neu i gydymffurfio ag ymrwymiad cyfreithiol. Rhan 6 Deddf Archwilio ac Atebolrwydd Lleol 2014 a Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) yw’r sail Gyfreithiol.