Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (CBSC) yn ymroddedig i ddiogelu eich preifatrwydd. Dylid darllen yr hysbysiad preifatrwydd hwn ar y cyd â hysbysiad preifatrwydd cyffredinol y Cyngor, y gellir ei weld ar: www.conwy.gov.uk/hysbysiadaupreifatrwydd
Mae Gwasanaeth Llyfrgelloedd Conwy’n gwbl ymroddedig i gydymffurfio â gofynion Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR), sy’n dod i rym o 25 Mai 2018.
Wrth benderfynu ar ba wybodaeth bersonol i’w chasglu, i’w defnyddio a’i dal, rydym yn ymroddedig i wneud yn siŵr y byddwn:
- Yn casglu, cadw a defnyddio gwybodaeth bersonol lle mae’n angenrheidiol ac yn deg i wneud hynny'n unig.
- Yn cadw eich gwybodaeth bersonol yn ddiogel.
- Yn cael gwared ar unrhyw wybodaeth bersonol yn ddiogel, pan nad oes bellach ei hangen.
- Bod yn agored gyda chi ynghylch sut rydym yn defnyddio’ch gwybodaeth, a gyda phwy rydym yn ei rhannu; a
- Mabwysiadu a chynnal safonau uchel o arfer gorau, wrth drin unrhyw wybodaeth bersonol.
Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn egluro sut rydym yn defnyddio unrhyw wybodaeth bersonol a gasglwn amdanoch, pan fyddwch yn defnyddio ein gwasanaethau.
Pa wybodaeth ydym yn ei chasglu amdanoch chi?
Rydym yn casglu gwybodaeth amdanoch pan fyddwch yn cofrestru i ymuno â’r llyfrgell i gael mynediad at ein gwasanaethau. Gall yr wybodaeth hon gynnwys eich enw, dyddiad geni, cyfeiriad e-bost, cyfeiriad post, a rhif ffôn neu symudol.
Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon i ddarparu’r gwasanaethau y gofynnwyd amdanynt, cynnal cofnodion cywir, ac os ydych chi’n cytuno, i anfon gwybodaeth farchnata atoch am ddigwyddiadau neu wasanaethau a gynigiwn.
Rydym hefyd yn casglu gwybodaeth pan fyddwn yn llenwi arolygon cwsmeriaid yn wirfoddol, neu’n rhoi adborth.
Mae gwybodaeth am ddefnydd o’r wefan yn cael ei chasglu drwy ddefnyddio cwcis. Mae manylion ynghylch sut rydym yn defnyddio cwcis i’w gweld ar ein gwefan ar y ddolen gyswllt ganlynol: https://www.conwy.gov.uk/cwcis
Sut byddwn yn defnyddio’r wybodaeth amdanoch?
Mae’r wybodaeth rydym yn ei chasglu amdanoch yn angenrheidiol ar gyfer perfformio’r contract rhyngom.Caiff ei defnyddio:
- at y diben y gwnaethoch ddarparu’r wybodaeth, h.y. i ddod yn aelod o'r gwasanaeth llyfrgelloedd;
- i’n galluogi i gyfathrebu â chi, a darparu gwasanaethau llyfrgelloedd llawn mwynhad a diogel i chi;
- i’n galluogi i reoli eich cyfrif cwsmer yn effeithiol, ac i sicrhau y cesglir unrhyw daliadau y codir arnoch fel aelod o’r llyfrgell;
- i fonitro ein perfformiad wrth ddarparu gwasanaethau i chi;
- i gasglu gwybodaeth ystadegol i’n caniatáu i gynllunio gwasanaethau i’r dyfodol, ac i gael eich barn ar ein gwasanaethau.
Mae’n bosibl byddwn hefyd yn anfon deunydd marchnata atoch os ydych wedi caniatau hynny.
Cadw eich data personol yn ddiogel
Mae eich gwybodaeth bersonol yn cael ei chadw’n ddiogel ar system rheoli llyfrgelloedd sy'n cael ei rhannu, sy'n storio cofnodion benthycwyr ar gronfa ddata. Mae hon yn bartneriaeth rhwng awdurdodau Llyfrgelloedd yng Nghymru. Mae ein gwasanaethau’n cydweithio i rannu costau a chynnig gwasanaethau ychwanegol i gwsmeriaid.
Bydd eich data ond yn cael ei ddefnyddio at y dibenion o reoli eich defnydd o’r llyfrgell, a chaiff ei ddefnyddio mewn ffordd sy'n diogelu eich preifatrwydd.
Gall eich data hefyd fod yn hygyrch i gyflenwyr systemau rheoli llyfrgelloedd. Mae’r cyflenwyr hyn yn ymroddedig i drin data yn unol â’r gofynion Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR), a byddant ond yn gwneud hynny i’r graddau sy’n ofynnol i gynnal y systemau rheoli llyfrgelloedd.
Datgelu gwybodaeth i bartïon allanol
Ni fyddwn yn datgelu eich gwybodaeth i unrhyw drydydd parti arall, oni bai lle bo’n ofynnol dan y gyfraith.
Mae'n ofyniad cyfreithiol bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn diogelu’r cyllid cyhoeddus mae’n ei ddyrannu ac felly gall ddefnyddio unrhyw wybodaeth a ddarparwyd gennych i atal, datgelu ac ymchwilio i dwyll ac afreoleidd-dra. Ar gyfer cyflawni contract, neu dasg, a wneir er budd y cyhoedd ac i gydymffurfio gyda rhwymedigaeth gyfreithiol. Y sail gyfreithiol yw Rhan 6 o Ddeddf Archwilio ac Atebolrwydd Lleol 2014 a Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru).
Ni fyddwn yn rhannu’ch gwybodaeth ar gyfer dibenion marchnata gyda chwmnïau’r tu allan i Wasanaeth Llyfrgelloedd Conwy. Ni fydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i unrhyw sefydliad y tu allan i Ardal Economaidd Ewrop, na’n cael ei rhannu â nhw.
Gellir defnyddio’r wybodaeth rydych yn ei darparu ar gyfer dibenion ymchwil, hanesyddol neu ystadegol. Pan fo hyn yn wir, bydd y data perthnasol yn ddienw er mwyn peidio â chynnwys unrhyw nodweddion a allai arwain at adnabod pobl. Os ydych yn caniatáu i ni gasglu a rhannu gwybodaeth am eich cefndir ethnig, eich credoau crefyddol, neu unrhyw anabledd a all fod gennych, byddwn ond yn gwneud hynny i fodloni ein dyletswyddau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, ac i sicrhau bod y gwasanaeth a roddwn i chi’n addas i’ch anghenion.
Am ba hyd y byddwn yn cadw eich gwybodaeth
Mae ein hamserlenni cadw dogfennau’n cynnwys gwybodaeth am ba mor hir rydym yn cadw gwahanol fathau o wybodaeth, edrychwch ar ein Telerau ac Amodau. Pan fyddwn yn cael gwared ar wybodaeth bersonol, byddwn yn gwneud hynny mewn ffordd ddiogel.
Sut i gysylltu gyda ni
Cysylltwch â ni os hoffech ddiweddaru eich manylion personol, neu os hoffech ganslo eich aelodaeth o'r llyfrgell:
E-bost: llyfrgell@conwy.gov.uk
Rhif Ffôn: (01492) 576139
Ysgrifennwch at:
Gwasanaeth Llyfrgelloedd Conwy
Diwylliant a Gwybodaeth
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Blwch Post 1
Conwy
LL30 9GN
Eich hawliau gwybodaeth a chael mynediad at eich cofnodion
Efallai y byddwch yn dymuno cael gwybod am eich hawliau gwybodaeth a/neu gael mynediad at gopi o’ch cofnodion o dan y ddeddfwriaeth Diogelu Data. Gweler Hysbysiad Preifatrwydd CBSC Corfforaethol am ragor o wybodaeth: www.conwy.gov.uk/hysbysiadaupreifatrwydd