Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (CBSC) wedi ymrwymo i sicrhau bod eich preifatrwydd wedi’i ddiogelu. Dylid gweld yr hysbysiad preifatrwydd hwn ochr yn ochr â hysbysiad preifatrwydd y Cyngor, y gellir ei weld ar: www.conwy.gov.uk/hysbysiadaupreifatrwydd
Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i’r Cyngor warchod y cyllid cyhoeddus y mae’n ei weinyddu, ac felly gall ddefnyddio unrhyw wybodaeth rydych wedi ei rhoi i atal, canfod ac ymchwilio i dwyll ac anghysondebau, ar gyfer perfformio contract, neu, dasg a gyflawnir er lles y cyhoedd, neu i gydymffurfio ag ymrwymiad cyfreithiol. Rhan 6 Deddf Archwilio ac Atebolrwydd Lleol 2014 a Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) yw’r sail Gyfreithiol.
Mae’r hysbysiad preifatrwydd a ganlyn sy’n benodol i wasanaeth yn berthnasol i:
- Gwasanaethau Cyflogau.
- Gwasanaethau Credydwyr.
- Gwasanaethau Yswiriant a Hawliadau.
Gwasanaethau Cyflogau
Pwrpas ar gyfer prosesu a sail gyfreithiol
Mae’n angenrheidiol ar gyfer perfformio tasg a wnaed er budd y cyhoedd neuwrth ymarfer awdurdod swyddogol a roddir i'r rheolydd (CBSC)
Gwybodaeth a gasglwyd:
- Enw
- Cyfeiriad
- Dyddiad Geni
- Rhyw
- Ethnigrwydd
- Anabledd/Anghenion Ychwanegol
- Crefydd
- Rhywioldeb
- Manylion Contract
- Gwybodaeth ariannol
- Yswiriant Gwladol
- P45 neu Ddatganiad Treth
- Datganiad Pensiwn
- Archwilydd Cyffredinol Cymru
Asiantaethau y gallwn rannu’r wybodaeth hon gyda nhw:
- Cyllid a Thollau EM
- Pensiynau Gwynedd / Pensiynau Clwyd
Am ba hyd y byddwn yn cadw eich gwybodaeth:
Caiff gwybodaeth ariannol ei chadw am 6 mlynedd (a’r flwyddyn bresennol). Os bydd amodau grant yn nodi y dylid cadw’r wybodaeth am gyfnod hirach, caiff yr wybodaeth ei chadw yn unol â thelerau ac amodau corff ariannu’r grant.
Pwrpas dros Brosesu:
- Darparu Gwasanaethau
- Cynllunio / gwella gwasanaeth, atal a chanfod trosedd/twyll.
Gwasanaethau Credydwyr
Pwrpas ar gyfer prosesu a sail gyfreithiol
Mae’n angenrheidiol ar gyfer perfformio tasg a wnaed er budd y cyhoedd neu wrth ymarfer awdurdod swyddogol a roddir i'r rheolydd (CBSC).
Gwybodaeth a gasglwyd:
- Enw
- Cyfeiriad
- Manylion Contract
- Gwybodaeth ariannol
- Manylion CIS/Manylion Hunangyflogaeth
Asiantaethau y gallwn rannu’r wybodaeth hon gyda nhw:
- Gwasanaeth Tân Gogledd Cymru
- Cyllid a Thollau EM
- Archwilydd Cyffredinol Cymru
- Posibilrwydd i'r wybodaeth gael ei rhannu gyda gwasanaethau eraill o fewn yr Awdurdod.
Am ba hyd y byddwn yn cadw eich gwybodaeth:
Caiff gwybodaeth ariannol ei chadw am 6 mlynedd (a’r flwyddyn bresennol). Os bydd amodau grant yn nodi y dylid cadw’r wybodaeth am gyfnod hirach, caiff yr wybodaeth ei chadw yn unol â thelerau ac amodau corff ariannu’r grant.
Pwrpas dros Brosesu:
- Darparu Gwasanaethau
- Cynllunio / gwella gwasanaeth, atal a chanfod trosedd/twyll.
Gwasanaethau Yswiriant a Hawliadau
Pwrpas ar gyfer prosesu a sail gyfreithiol
Mae’n angenrheidiol ar gyfer perfformio tasg a wnaed er budd y cyhoedd neu wrth ymarfer awdurdod swyddogol a roddir i'r rheolydd (CBSC)
Gwybodaeth y gallwn ei chasglu:
- Enw
- Cyfeiriad
- Rhif ffôn
- Dyddiad Geni
- Swydd
- Adrodd am ddamweiniau
- Manylion y Digwyddiad
- Gwybodaeth am Hawliadau
- Gwybodaeth sy’n Ymwneud ag Euogfarnau
- Adroddiadau/Cofnodion Iechyd
- Gwybodaeth ariannol
- Manylion Teulu
- Cofnodion Cyflogaeth/Personél
- Pan fyddwch wedi gofyn bod unigolion eraill yn cael eu cynnwys, gwybodaeth bersonol am yr unigolion hynny.
Asiantaethau/Sefydliadau y gallwn rannu’r wybodaeth hon gyda nhw:
- Broceriaid Yswiriant
- Cwmnïau Yswiriant a allai drosglwyddo eich gwybodaeth i’r Gofrestr Cyfnewid Hawliadau a Gwarantu, a gaiff ei rhedeg gan Insurance Database Services Ltd a/neu’r Gofrestr Gwrth-Dwyll a Lladrad, a gaiff ei rhedeg gan Gymdeithas Yswirwyr Prydain.
- Cynghorwyr proffesiynol, gan gynnwys ymhlith eraill, cwmnïau cyfreithiol, cyfreithwyr a bargyfreithwyr
- Llysoedd
- Yr heddlu ac Asiantaethau Gorfodi'r Gyfraith eraill.
- Gweithwyr Iechyd Proffesiynol a/neu Sefydliadau Cymdeithasol/Lles
- Asiantaethau Cyfeirio Credyd
- Llywodraeth Ganolog a/neu Lywodraeth Lleol Eraill
Am ba hyd y byddwn yn cadw eich gwybodaeth:
- Byddwn yn cadw a phrosesu eich gwybodaeth bersonol am gyhyd ag sy’n angenrheidiol i fodloni’r pwrpas y cafodd ei chasglu ar ei gyfer yn wreiddiol. Gallai’r cyfnodau amser hyn fod yn destun cyfyngiadau cyfreithiol neu reoleiddiol, neu gallent fod wedi’u gosod i’n galluogi i reoli’r gwasanaeth.
Pwrpas dros Brosesu:
- Trin Hawliadau
- Darparu Gwasanaethau
- Cynllunio Gwasanaethau/Gwella Gwasanaethau
- Atal a Chanfod Trosedd a/neu Dwyll.