Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Cyngor Mynediad i Wybodaeth Hysbysiadau Preifatrwydd Hysbysiad Preifatrwydd Penodol y Gwasanaeth Archwilio Mewnol

Hysbysiad Preifatrwydd Penodol y Gwasanaeth Archwilio Mewnol


Summary (optional)
Hysbysiad Preifatrwydd Diogelu Data
start content

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn Rheolwr Data ac wedi’i gofrestru gyda Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth. https://ico.org.uk/ESDWebPages/Entry/Z4738791

Mae’r hysbysiad hwn yn berthnasol i wybodaeth sy’n cael ei darparu gan unigolyn a allai godi pryderon am unrhyw agwedd o waith y Cyngor, naill ai’n uniongyrchol gyda’r Gwasanaeth Archwilio Mewnol, neu wybodaeth sy’n cael ei phasio i’r Gwasanaeth Archwilio Mewnol yn dilyn adroddiad i wasanaeth arall o fewn y Cyngor. 

Gall pryderon gynnwys, ond heb fod wedi eu cyfyngu i:

  • Gweithred yn erbyn Cyfansoddiad y Cyngor neu dorri polisïau’r Cyngor
  • Gweithred yn erbyn Cod Ymddygiad Llywodraeth Leol
  • Ymddygiad amhriodol neu pan na fodlonir safonau neu arferion sefydledig
  • Trosedd, megis twyll neu ddwyn
  • Camddefnyddio neu gam-drin adnoddau’r Cyngor
  • Celu unrhyw weithred a nodir uchod

Pwrpas

Mae'n ofyniad cyfreithiol bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn diogelu’r cyllid cyhoeddus mae’n ei weinyddu ac felly gall ddefnyddio unrhyw wybodaeth a ddarparwyd gennych i atal, datgelu ac ymchwilio i dwyll ac afreoleidd-dra.  Ar gyfer perfformiad contract, neu dasg, a wneir er budd y cyhoedd ac i gydymffurfio gyda rhwymedigaeth gyfreithiol.

Gwybodaeth a Gesglir

  • Enw
  • Manylion Cyswllt
  • Unrhyw wybodaeth berthnasol arall yn seiliedig ar y pryderon a godwyd
  • Ni chaiff unrhyw ddata categori arbennig ei gasglu

Sail Gyfreithiol 

Rhan 6 Deddf Archwilio ac Atebolrwydd Lleol 2014 a Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) yw’r sail gyfreithiol.  

Sut / Lle Caiff eich Data ei Storio

Bydd eich data yn cael ei storio’n ddiogel yn fewnol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

Am Ba Mor Hir Caiff eich Data ei Gadw:

Os bydd sail i'ch pryder a'i bod yn cael ei harchwilio byddwn yn cadw’r wybodaeth am 6 mlynedd lawn.  Os yw eich pryder yn ddi-sail byddwn yn cadw’r wybodaeth am 2 flynedd.

Gyda Phwy Ydym yn Rhannu eich Data

  • Gwasanaethau eraill o fewn y Cyngor
  • Yr Heddlu neu Wasanaeth Erlyn y Goron
  • Unrhyw drydydd parti arall a fyddai angen cysylltu â nhw yn seiliedig ar y pryderon a godwyd

Ni fydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i unrhyw wlad y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd.

Deallusrwydd Artiffisial, Dysgu Peirianyddol a Modelau Iaith Mawr Deallusrwydd Artiffisial (Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol) neu offer tebyg arall

Ni fydd unrhyw agwedd ar y gwaith prosesu arfaethedig yn cael ei gwneud yn defnyddio Deallusrwydd Artiffisial, Dysgu Peirianyddol, Modelau Iaith Mawr neu Ddeallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol.

Eich Hawliau o ran Eich Gwybodaeth

Yn ôl y gyfraith mae gennych amrywiaeth o hawliau dros eich data personol sy’n cynnwys:

  • yr hawl i gael gwybod 
  • yr hawl i gael gweld y data personol yr ydym yn ei gadw amdanoch chi 
  • yr hawl i gywiro unrhyw wallau yn y data personol sydd gennym amdanoch 
  • yr hawl i gael dileu eich data personol pan nad oes ei angen mwyach 
  • yr hawl, mewn amgylchiadau cyfyngedig, i gyfyngu ar sut y defnyddir eich data personol 
  • yr hawl i wrthwynebu i’r defnydd o’ch data personol

Yn yr amgylchiadau prin ble rydym yn dibynnu ar gydsyniad fel sail gyfreithiol i brosesu eich data personol, gallwch dynnu’r cydsyniad hwnnw’n ôl ar unrhyw adeg.

Gweler Hysbysiad Preifatrwydd Llawn CBSC hefyd:
Hysbysiad Preifatrwydd Llawn Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy – Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Manylion Cyswllt

Manylion Cyswllt - Rheolwr Data
Pennaeth y Gwasanaeth Archwilio a Chaffael 
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Blwch Post 1
Bae Colwyn
LL29 0GG

Ffôn: 01492 576215
Ebost: sioned.parry@conwy.gov.uk

Os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill am sut y defnyddir eich data personol neu os ydych yn dymuno arfer unrhyw un o’ch hawliau y cyfeirir atynt uchod, cysylltwch â: 

Manylion Cyswllt - Uned Llywodraethu Gwybodaeth
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Blwch Post 1
Bae Colwyn
LL29 0GG

Ffôn: 01492 577215
Ebost: uned.llyw-gwyb@conwy.gov.uk

Os ydych yn credu nad ydym wedi llwyddo i drin a rheoli eich data personol yn briodol mae gennych hawl i apelio i:

Manylion Cyswllt - Sut i Gwyno
Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth – Cymru, 2il Lawr
Tŷ Churchill 
Ffordd Churchill
Caerdydd
CF10 2HH

E-bost: wales@ico.org.uk

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content