Cyflwyniad
|
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn Rheolydd Data sydd wedi’i gofrestru gyda Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
https://ico.org.uk/ESDWebPages/Entry/Z4738791
|
Y Gwasanaeth a fydd yn prosesu (defnyddio) eich data personol yw
|
Bydd y Cyngor, yn benodol y Gwasanaeth Cyllid, yn gweinyddu arolwg mewn perthynas â Chyllideb y Cyngor 2025-2026.
|
Y rheswm (diben) pam mae angen prosesu’ch data personol yw
|
Mae’n ddyletswydd gyfreithiol ar y Cyngor i bennu cyllideb gytbwys cyn dechrau’r flwyddyn ariannol.
Mae Cynghorau ar draws y DU yn wynebu costau cynyddol a galw cynyddol am wasanaethau, a hynny oherwydd yr argyfwng costau byw, cost tanwydd ac ynni, cynnydd i gyfraddau llog a gwaddol y pandemig. Fel sy’n wir i bob Cyngor, mae’n rhaid i Gonwy gipio pob cyfle i ddefnyddio ei arian yn fwy effeithiol i leihau costau ac, yn anffodus, gall hyn arwain at ostyngiad yn lefel sy’n cael eu darparu.
Mae’r ymgynghoriad yn egluro’r sefyllfa ariannol a’r penderfyniadau sydd angen eu gwneud, ac rydym eisiau gwybod pa wasanaethau sy'n bwysig i chi a'ch cymuned leol.
|
Y data personol a fydd yn cael ei gasglu a’i brosesu yw
|
- Data Gwe (e.e. data lleoliad, cyfeiriad IP, briwsion)
- Cod post
|
Y sail gyfreithiol dros brosesu’ch data personol yw
(gweler Sail gyfreithiol i brosesu | Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth)
|
(a) Cydsyniad: mae’r unigolyn wedi rhoi caniatâd clir i chi brosesu eu data personol at ddiben penodol.
|
Manylion unrhyw ddata categori arbennig a gesglir ac a brosesir (os o gwbl)
|
Gwybodaeth cydraddoldeb (os darparwyd)
- Cefndir ethnig
- Rhyw
- Hunaniaeth rhywedd
- Anabledd
- Cyfeiriadedd rhywiol
- Crefydd a chredoau
- Oedran
- Priodas a Phartneriaeth Sifil
Mae’n bosib’ y byddwn yn defnyddio gwybodaeth fel eich cefndir ethnig, eich iaith gyntaf, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol a’ch oed er mwyn casglu ystadegau am boblogaeth yr ardal a’r defnydd o’n gwasanaethau.
Fe wneir hyn i helpu i gydymffurfio a’n goblygiadau cyfreithiol ac i gynllunio darpariaeth gwasanaethau yn y dyfodol.
Pa ddata sy’n cael ei gasglu?
Rydym ni’n casglu data ar ethnigrwydd, crefydd, statws priodasol, anabledd, rhyw, rhywioldeb – mae’r rhain oll yn nodweddion gwarchodedig dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.
Pam bod arnoch chi angen y wybodaeth yma?
Fel Cyngor mae’n bwysig ein bod ni’n gallu dal ein hunain i gyfrif fel Awdurdod Lleol cyfrifol sydd wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd cyfartal a theg i bawb. Mae casglu eich data’n gywir yn sicrhau ein bod ni’n gallu gwella ein dealltwriaeth o’r bylchau sydd angen ein sylw, ac yna monitro ein cynnydd fel Awdurdod Lleol yn dryloyw mewn perthynas â gosod cyllidebau yn y dyfodol.
A fydd hyn yn ddienw?
Bydd y data yn ddienw.
Pwy fydd yn gweld y wybodaeth yma?
Bydd y wybodaeth a rowch yn cael ei chadw’n gwbl gyfrinachol ac yn cael ei defnyddio ar gyfer y dibenion a nodwyd uchod yn unig.
Mae gennym ni brotocolau cadarn ar waith i wneud yn siŵr mai dim ond unigolion perthnasol sydd angen defnyddio’r wybodaeth i wneud dadansoddiad cydraddoldeb sy’n gallu defnyddio’r wybodaeth; ni fydd y wybodaeth ar gael i’r Awdurdod ehangach.
A fydd fy ngwybodaeth yn ddiogel?
Bydd. Mae yna gyfreithiau diogelu data cadarn ar waith i sicrhau ein bod ni’n diogelu eich manylion personol ac yn eu cadw’n ddiogel.
|
Y sail gyfreithiol dros brosesu eich data categori arbennig yw
(gweler Special category data | ICO)
|
Pan brosesir - (a) Caniatâd penodol
|
Sut/ble caiff eich data ei storio
|
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn defnyddio amrywiaeth o systemau gwahanol i storio a phrosesu eich data. Mae rhai o’r rhain yn cael eu cynnal yn fewnol, ac eraill yn cael eu cynnal gan sefydliadau trydydd parti drwy gynnal yn y cwmwl.
|
Am ba hyd y bydd eich data’n cael ei gadw
|
Byddwn yn cadw eich gwybodaeth bersonol yn unol â’r cyfnodau cadw sydd ym Mholisïau Cadw Data / Dogfennau’r Cyngor ar gyfer pob maes data a gesglir.
Ni fyddwn yn cadw data personol neu ddata categori arbennig a gesglir yn ystod gweithgareddau ymgysylltu am fwy na 12 mis oni bai eich bod wedi rhoi caniatâd penodol i ni gadw eich manylion cyswllt er mwyn i ni allu cadw cysylltiad neu at ddibenion marchnata yn y dyfodol.
|
Gyda phwy y gellir rhannu eich data
|
Pob adran o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy fel sy’n briodol i ganlyniadau arolygon neu ffurflenni wedi eu llenwi.
Rydym yn gweithio gydag amrywiaeth o sefydliadau eraill naill ai i storio gwybodaeth bersonol neu i’n helpu i ddarparu ein gwasanaethau i chi. Efallai y byddwn hefyd yn rhannu eich gwybodaeth bersonol pan fyddwn yn teimlo bod rheswm da dros wneud hynny sy’n bwysicach na gwarchod eich preifatrwydd. Er enghraifft, efallai y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth er mwyn canfod a rhoi diwedd ar droseddu a thwyll.
Dyma’r rhai rydyn ni’n rhannu eich gwybodaeth â nhw:
- Gwasanaethau / Adrannau eraill CBSC at ddibenion materion Gorfodi’r Cyngor lle bo angen
- Cyrff sy’n ymchwilio i hawliadau neu’n eu prosesu
- Asiantaethau yn y sector cyhoeddus e.e. yr Adran Gwaith a Phensiynau, yr Adran Cyllid a Thollau, awdurdodau lleol eraill a chwmnïau yn y sector preifat fel asiantaethau archwilio credyd
- Cyrff sy’n gweithio i atal twyll a chefnogi cynlluniau twyll cenedlaethol.
- Cwmnïau sy’n hwyluso’r arolwg ymgynghori e.e. Snap
Efallai y byddwn yn defnyddio eich adborth cwsmer yn ddienw ar gyfer deunydd marchnata a chyfathrebu.
Mae gennym drefniadau gydag amrywiaeth o ddarparwyr TG sy’n cefnogi systemau a gwasanaethau TG y Cyngor, felly mae’n bosib’ y bydd y cyflenwyr hyn yn cael mynediad at eich data. Pan fydd y trefniadau hyn gennym, mae cytundeb contract gyda nhw bob amser i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r Gyfraith Diogelu Data.
|
Eich hawliau data
|
Yn ôl y gyfraith mae gennych amrywiaeth o hawliau dros eich data personol sy’n cynnwys:
- yr hawl i gael gwybod
- yr hawl i gael gweld y data personol yr ydym yn ei gadw amdanoch chi.
- yr hawl i gywiro unrhyw wallau yn y data personol yr ydym yn ei gadw amdanoch chi.
- yr hawl i gael dileu eich data personol pan nad oes ei angen mwyach.
- yr hawl, mewn amgylchiadau cyfyngedig, i gyfyngu ar sut y defnyddir eich data personol.
- yr hawl i wrthwynebu i’r defnydd o’ch data personol.
Yn yr amgylchiadau prin ble rydym yn dibynnu ar gydsyniad fel sail gyfreithiol dros brosesu eich data personol, gallwch dynnu’r cydsyniad hwnnw’n ôl ar unrhyw adeg.
Gweler hefyd Hysbysiad Preifatrwydd y Gwasanaeth perthnasol a Hysbysiad Preifatrwydd Llawn CBSC:
Hysbysiad Preifatrwydd Llawn Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Hysbysiad Preifatrwydd Gwelliant a Datblygiad Corfforaethol
Hysbysiad Preifatrwydd Treth y Cyngor
|
Unrhyw wybodaeth arall sy’n berthnasol (os oes angen)
|
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi dewis Snap fel is-brosesydd i hwyluso’r arolwg. Mae mwy o fanylion ar gael isod:
Polisi Preifatrwydd - Snap Surveys
|
Cyswllt gwasanaeth
|
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r manylion yn y ddogfen hon, cysylltwch â:
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Blwch Post 1, Conwy, LL30 9GN
|
Yr Uned Rheoli Gwybodaeth
|
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau eraill am sut mae eich data personol yn cael ei ddefnyddio neu os ydych chi’n dymuno arfer unrhyw rai o’ch hawliau y cyfeirir atynt uchod, cysylltwch â:
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy Yr Uned Rheoli Gwybodaeth Blwch Post 1 Conwy LL30 9GN
uned.llyw-gwyb@conwy.gov.uk
01492 574016 / 577215
Os ydych chi’n credu ein bod wedi methu â thrin a rheoli eich data personol yn briodol, mae gennych hawl i apelio i:
Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth - Cymru 2il Lawr Churchill House Ffordd Churchill Caerdydd CF10 2HH
E-bost: cymru@ico.org.uk
|