Hysbysiad Preifatrwydd Gofal Cymdeithasol a Chefnogaeth i Oedolion
Mae’r hysbysiad preifatrwydd a ganlyn yn berthnasol i’r gwasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion a gwasanaethau cefnogaeth a ddarperir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Dylid ei ddarllen yn ychwanegol at Hysbysiad Preifatrwydd Cwsmeriaid cyffredinol y Cyngor, Hysbysiad Preifatrwydd Iechyd Meddwl Oedolion, a’r Hysbysiad Preifatrwydd Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Gomisiynwyd.
Bydd yr hysbysiad preifatrwydd yn cynnwys:
- Pwrpas dros brosesu
- Gwybodaeth bersonol a gasglwyd a sail gyfreithiol
- Gyda phwy fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth
- Am ba hyd y byddwn yn cadw eich gwybodaeth
- Eich hawliau gwybodaeth
Pwrpas dros brosesu
Mae’r gwasanaeth yn prosesu gwybodaeth bersonol er mwyn gwneud gwaith gweinyddu sylfaenol a darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion a gwasanaethau cefnogaeth mewn lleoliadau cymunedol a phreswyl/gofal Iechyd naill ai’n uniongyrchol neu ar y cyd â phartneriaid, a darparwyr sector preifat a thrydydd sector a gomisiynwyd. Mae hyn yn cynnwys:
- Asesu anghenion iechyd corfforol a meddyliol, dysgu ac ymddygiad, ariannol a gofal cymdeithasol, fel sy’n briodol, oedolion diamddiffyn a/neu eu gofalwyr/cynrychiolydd dynodedig/deiliaid Atwrneiaeth/Dirprwyon a Benodwyd gan Lysoedd, sydd angen pecynnau gofal cymdeithasol.
- Galluogi darparu amrywiaeth o becynnau gofal cymdeithasol i oedolion wedi’u personoli
- Cadw ein cyfrifon a chofnodion ein hunain
- Cefnogi a rheoli ein gweithwyr
- Dyfarnu a rheoli contractau gyda darparwyr gofal cymdeithasol fel a gomisiynwyd gennym ni a sicrhau ansawdd gofal i’n cwsmeriaid
- Ffurfio’r farchnad darparwyr gofal cymdeithasol presennol a’r dyfodol drwy ymgynghori gyda chwsmeriaid a/neu eu gofalwyr/cynrychiolwyr
- Darparu gwasanaethau “cyfeirio” i rywfaint o gyngor a chanllawiau sy’n ymwneud â gofal cymdeithasol i oedolion
- Darparu gwasanaeth cwynion os bydd pethau’n mynd o’u lle
- Diogelu oedolion diamddiffyn
- Atal trosedd
- Cydymffurfio â threfn rheoleiddiol/arolygu (e.e. Ofsted a’r Comisiwn Ansawdd Gofal), gan gynnwys darparu ystadegau dienw
- Darparu gwiriadau Safe Scheme a gwiriadau Safe & Well
Mae'n ofyniad cyfreithiol bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn diogelu’r cyllid cyhoeddus mae’n ei ddyrannu ac felly gall ddefnyddio unrhyw wybodaeth a ddarparwyd gennych i atal, datgelu ac ymchwilio i dwyll ac afreoleidd-dra. Ar gyfer perfformiad contract, neu dasg, a wneir er budd y cyhoedd ac i gydymffurfio gyda rhwymedigaeth gyfreithiol. Y sail gyfreithiol yw Rhan 6 o Ddeddf Archwiliad Lleol ac Atebolrwydd 2014 a Rheoliadau Cyfrifon ac Archwiliadau (Cymru).
Gwybodaeth bersonol a gasglwyd a sail gyfreithiol
Mae’r gwasanaethau yn prosesu gwybodaeth bersonol, sy’n berthnasol i achosion unigol ond gallai gynnwys rhai o’r canlynol, ymhlith eraill:
- Manylion personol – e.e. enw / oedran / cyfeiriad / ysgol / a manylion teulu
- Manylion cyswllt – e.e. rhifau ffôn / cyfeiriad e-bost
- Cyfeirnodau Personol – e.e. cyfeirnod cwsmer unigryw Gofal Cymdeithasol / Rhif Yswiriant Gwladol / rhif GIG
- Manylion gwaith
- Manylion ariannol – at ddibenion asesu ariannu
- Ffordd o fyw ac amgylchiadau cymdeithasol
- Barn a phenderfyniadau
- Cofnodion o gwynion
- Adroddiadau diogelu
- Cofnodion myfyrwyr a disgyblion
- Delweddau gweledol, ymddangosiad personol ac ymddygiad
Mae’n bosibl y byddwn hefyd yn prosesu gwybodaeth categori arbennig (sensitif), sy’n berthnasol i achosion unigol ond gallai gynnwys rhai o’r canlynol, ymhlith eraill:
- Gwybodaeth Biometrig
- Manylion iechyd corfforol neu iechyd meddwl
- Tarddiad hiliol neu ethnig
- Credoau crefyddol neu gredoau eraill
- Troseddau (gan gynnwys troseddau honedig), achosion troseddol, canlyniadau a dedfrydau
- Ymlyniad gwleidyddol / barn
- Tueddfryd Rhywiol
Y sail gyfreithiol dros brosesu’r wybodaeth bersonol hon yw:
- Cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol
- Contract ar gyfer darparu gwasanaethau
- Caniatâd
- Diddordebau dilys at bwrpas rheoli gweithwyr
Gyda phwy fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth
Mae’n bosibl y bydd angen i ni rannu’r wybodaeth bersonol rydych wedi’i rhoi i ni neu rydym wedi’i chasglu amdanoch gyda sefydliadau partner lle bo’n berthnasol i’r unigolyn a/neu eu darpariaeth gofal. Mae’r rhain yn cynnwys, ond nid yn gyfyngedig i:
- Yr Heddlu a’r gwasanaeth prawf
- Yr Adran Iechyd
- Gwasanaethau Iechyd – Meddygon Teulu, Deintyddion, Optegwyr, Gwasanaethau Ambiwlans, Ysbytai, Ymddiriedolaeth Partneriaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (GIG), Grwpiau Comisiynu Clinigol, trefn arolygu Rheoleiddio - Y Comisiwn Ansawdd Gofal, Ofsted, Adrannau Llywodraeth Cymru
- Caiff data ystadegol, dienw ei rannu gyda NHS Digital
- Ysgolion/colegau
- Asiantaethau Tai a darparwyr
- Darparwyr Eiriolaeth a Phenodeiaeth wedi’u Comisiynu
- Cartrefi Gofal a darparwyr gofal cymdeithasol eraill
- Cwmnïau cyfleustodau
- Cynrychiolwyr sy’n gweithredu ar eich rhan pe na bai gennych allu i wneud penderfyniadau am eich gofal. Gan gynnwys ymhlith eraill:
- Eiriolydd Galluedd Meddyliol Annibynnol;
- Rhai sydd ag Atwrneiaeth Arhosol
- Dirprwy a Benodwyd gan y Llys
- Cynrychiolydd enwebedig/aelod teulu agosaf
- Aelodau eraill o’r teulu sydd â diddordeb yn eich iechyd meddwl a’ch gofal
- Llys Gwarchod
- Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus
- Yr Adran Gwaith a Phensiynau
- Swyddfa Gartref
- Cyllid a Thollau EM
- Banciau a chymdeithasau adeiladu
- Asiantaethau cyfeirio credyd
- Bwrdd Diogelu Oedolion
- Tîm(timau) oedolyn priodol/gofal cymdeithasol i blant
- Gwasanaethau eraill Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy fel bo’n briodol gan gynnwys Gwasanaethau Cyfreithiol, Llywodraeth Leol a’r Ombwdsmon Gofal Cymdeithasol
- Sefydliadau Gwirfoddol sy’n gweithio mewn partneriaeth gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.
Mae gennym gytundebau rhannu data penodol ar waith gydag asiantaethau lleol ac weithiau mae’n ofynnol dan y gyfraith i ni drosglwyddo eich manylion i drydydd parti, er enghraifft, i atal trosedd.
Caiff gwybodaeth ei rhannu dim ond pan fo wirioneddol angen i’n helpu i ddarparu gwasanaethau effeithiol ac mae’n bosibl y bydd gennych hawl i wrthod. Ni fyddwn yn ei throsglwyddo i unrhyw bartïon eraill oni bai ei bod yn ofynnol dan y gyfraith i ni wneud hynny, neu yn yr holl amgylchiadau rhesymol, bod y datgeliad yn deg a chyfiawn at dibenion prosesu neu ei fod yn destun eithriad diogelu data cyfreithiol.
Am ba hyd y byddwn yn cadw eich gwybodaeth
Y cyfnod safonol ar gyfer cadw cofnodion gofal cymdeithasol i oedolion yw 6 mlynedd ar ôl i wasanaeth gofal cymdeithasol i oedolion ddod i ben. Fodd bynnag, mae amrywiaeth o gyfnodau cadw eraill sy’n effeithio ar wahanol angen o ran gwybodaeth a gwasanaeth hefyd, ac mae’r rhain yn amrywio o 1 flwyddyn – 11 mlynedd gan ddibynnu ar y math o wybodaeth a gwasanaeth. DS Mae cyfnod cadw cofnodion Iechyd Meddwl yn cael ei gwmpasu gan Hysbysiad Preifatrwydd Gwasanaethau Iechyd Meddwl
Sylwch: gall cyfnodau cadw a nodwyd fod yn destun unrhyw ddaliadau cyfreithiol a roddir dan Ddeddf Ymchwiliadau 2005 a allai fod yn berthnasol i’r wybodaeth a gwrthwneud cyfnodau cadw safonol.
Eich hawliau gwybodaeth
Mae hawl gennych i gael copi, neu ddisgrifiad, o’r data personol sydd gennym sy’n berthnasol i chi, yn amodol ar gyfyngiadau cyfreithiol. Gweler Sut i gael eich Cofnodion Gwasanaethau Cymdeithasol i weld sut i wneud cais am hyn gan ddefnyddio’r ffurflen.
Gallai fod gennych hawl i gywiro, cyfyngu, gwrthwynebu a dileu eich gwybodaeth bersonol yn dibynnu ar y gwasanaeth a’r sail gyfreithiol. Yn y lle cyntaf, cysylltwch â’r Tîm Mynediad Gwrthrych gan ddefnyddio mynediadpwnc@conwy.gov.uk neu ffonio 01492 575803.
Gweler ein hysbysiad preifatrwydd cyffredinol yn www.conwy.gov.uk/preifatrwydd i gael manylion cyswllt pellach ac os oes gennych gŵyn am eich hawliau gwybodaeth.
Hysbysiad Preifatrwydd Gwasanaethau Iechyd Meddwl i Oedolion
Mae’r hysbysiad preifatrwydd a ganlyn yn berthnasol i wasanaethau Gofal Cymdeithasol i Oedolion a ddarperir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.
Bydd yr hysbysiad preifatrwydd yn cynnwys
- Pwrpas dros brosesu
- Gwybodaeth bersonol a gasglwyd a sail gyfreithiol
- Gyda phwy fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth
- Am ba hyd y byddwn yn cadw eich gwybodaeth
- Eich hawliau gwybodaeth
Pwrpas dros brosesu
Mae’r Gwasanaeth Iechyd Meddwl yn prosesu gwybodaeth bersonol er mwyn darparu gwasanaethau gofal ac ôl-ofal iechyd meddwl i gwsmeriaid, eu gofalwyr a/neu gynrychiolwyr.
Mae hyn yn cynnwys:
- Asesu anghenion gofal iechyd meddwl, gan gynnwys mewn amgylchiadau penodol, Colli Rhyddid, ar gyfer cwsmeriaid a/neu eu gofalwyr a darparu’r pecyn gofal priodol
- Cael cyllid ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl, lleoliadau a phecynnau gofal ar gyfer cwsmeriaid a/neu eu gofalwyr
- Darparu gwiriadau Safe Scheme a gwiriadau Safe & Well
- Ymchwilio i gwynion a phryderon
- Cefnogi a rheoli ein gweithwyr
- Defnyddir gwybodaeth ddi-enw yn seiliedig ar wybodaeth bersonol, ond heb ei chynnwys, ar gyfer cynllunio gwasanaethau ac adrodd ac adroddiadau ystadegol i’r Cyngor a’r Adran Iechyd
Y sail gyfreithiol dros brosesu’r wybodaeth bersonol hon yw:
Mae’r Gwasanaeth Iechyd Meddwl i Oedolion yn prosesu gwybodaeth bersonol, sy’n berthnasol i achosion unigol ond gallai gynnwys rhai o’r canlynol, ymhlith eraill:
- Manylion personol – e.e. enw / dyddiad geni / cyfeiriad / a manylion teulu. Mewn achosion pan nad oes gan y cwsmer allu meddyliol, bydd hyn hefyd yn cynnwys enw a manylion cyswllt perthynas/Cynrychiolydd a Benodwyd a/neu rhai gydag Atwrneiaeth Arhosol.
- Manylion cyswllt – e.e. rhifau ffôn / cyfeiriad e-bost
- Cyfeirnodau Personol – Rhif Yswiriant Gwladol / rhif GIG, rhif cwsmer unigryw System Ofal
- Manylion gwaith
- Manylion Teulu – pan nad oes gan y cleient allu, enw, manylion cyswllt perthynas agosaf/deiliad Atwrneiaeth Arhosol
- Manylion ariannol/manylion Budd-daliadau - at ddibenion asesiad ariannol a chyllido gofal
- Ffordd o fyw ac amgylchiadau cymdeithasol
- Barn a phenderfyniadau
- Cofnodion o gwynion
- Ymddangosiad personol ac ymddygiad
Mae’n bosibl y byddwn hefyd yn prosesu gwybodaeth sensitif (categori arbennig), sy’n berthnasol i achosion unigol, ar gyfer darparu gwasanaethau iechyd meddwl, a allai gynnwys rhai o’r canlynol, ymhlith eraill:
- Manylion iechyd corfforol a/neu iechyd meddwl
- Tarddiad hiliol neu ethnig
- Credoau crefyddol neu gredoau eraill
- Troseddau (gan gynnwys troseddau honedig), achosion troseddol, canlyniadau a dedfrydau
- Ymlyniad gwleidyddol / barn
- Tueddfryd Rhywiol
Y sail gyfreithiol dros brosesu’r wybodaeth bersonol hon yw:
- Cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol
- Deddf Iechyd Meddwl 1983/2007
- Deddf Galluedd Meddyliol 2005
- Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid 2009
- Deddf Gofal 2014
Gyda phwy fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth
O bryd i’w gilydd, mae’n bosibl y bydd angen i ni rannu’r wybodaeth bersonol rydych wedi’i rhoi i ni neu rydym wedi’i chasglu amdanoch chi neu eich cynrychiolydd gyda sefydliadau partner. Mae’r rhain yn cynnwys, ond nid yn gyfyngedig i:
- Yr Heddlu
- Iechyd gan gynnwys – Meddygon Teulu, Ysbytai, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Grwpiau Comisiynu Clinigol, Cartrefi Gofal
- Caiff data ystadegol, di-enw ei rannu gyda NHS Digital
- Aseswyr Lles Gorau Annibynnol ac Aseswyr Iechyd Meddwl
- Cynrychiolwyr sy’n gweithredu ar eich rhan pe na bai gennych allu i wneud penderfyniadau am eich gofal. Gan gynnwys ymhlith eraill:
- Eiriolydd Galluedd Meddyliol Annibynnol;
- Rhai sydd ag Atwrneiaeth Arhosol
- Dirprwy a Benodwyd gan y Llys
- Cynrychiolydd enwebedig/aelod teulu agosaf
- Aelodau eraill o’r teulu sydd â diddordeb yn eich iechyd meddwl a’ch gofal
- Llys Gwarchod
- Gwasanaethau Diogelu Sir Conwy
- Tîm(timau) oedolyn priodol/gofal cymdeithasol i blant
- Gwasanaethau eraill Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy fel bo’n briodol gan gynnwys Gwasanaethau Cyfreithiol
Mae gennym gytundebau rhannu data penodol ar waith gydag asiantaethau lleol ac weithiau mae’n ofynnol dan y gyfraith i ni drosglwyddo eich manylion i drydydd parti, er enghraifft, i atal trosedd.
Caiff gwybodaeth ei rhannu dim ond pan fo wirioneddol angen i’n helpu i ddarparu gwasanaethau effeithiol ac mae’n bosibl y bydd gennych hawl i wrthod. Ni fyddwn yn ei throsglwyddo i unrhyw bartïon eraill oni bai ei bod yn ofynnol dan y gyfraith i ni wneud hynny, neu yn yr holl amgylchiadau rhesymol, bod y datgeliad yn deg a chyfiawn at dibenion prosesu neu ei fod yn destun eithriad diogelu data cyfreithiol.
Am ba hyd y byddwn yn cadw eich gwybodaeth
Gwybodaeth sy’n berthnasol i’r rhai a gaiff eu cadw dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983: 20 mlynedd o’r adeg pan nad oes angen triniaeth bellach yna cedwir gwybodaeth grynodeb am 10 mlynedd NEU 8 mlynedd o farwolaeth yr unigolyn os yw’r achos eisoes wedi cau
Gwybodaeth sy’n berthnasol i’r rhai na gaiff eu cadw dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983: 10 mlynedd o’r adeg pan nad oeddent yn cael gofal bellach neu 2 flynedd o farwolaeth yr unigolyn os oedd yr achos eisoes wedi cau
Sylwch: gall cyfnodau cadw a nodwyd fod yn destun unrhyw ddaliadau cyfreithiol a roddir dan Ddeddf Ymchwiliadau 2005 a allai fod yn berthnasol i’r wybodaeth a gwrthwneud cyfnodau cadw safonol.
Eich hawliau gwybodaeth
Mae hawl gennych i gael copi, neu ddisgrifiad, o’r data personol sydd gennym sy’n berthnasol i chi, yn amodol ar gyfyngiadau cyfreithiol. Gweler Sut i gael eich Cofnodion Gwasanaethau Cymdeithasol i weld sut i wneud cais am hyn gan ddefnyddio’r ffurflen.
Gallai fod gennych hawl i gywiro a chyfyngu (pan fo’n gysylltiedig â chywiro) eich gwybodaeth bersonol yn dibynnu ar y gwasanaeth a’r sail gyfreithiol. Yn y lle cyntaf, cysylltwch â’r Tîm Mynediad Gwrthrych gan ddefnyddio mynediadpwnc@conwy.gov.uk neu ffonio 01492 575803.
Gweler ein hysbysiad preifatrwydd cyffredinol yn www.conwy.gov.uk/preifatrwydd i gael manylion cyswllt pellach ac os oes gennych gŵyn am eich hawliau gwybodaeth.
Hysbysiad Preifatrwydd Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Gomisiynwyd
Mae’r hysbysiad preifatrwydd a ganlyn yn berthnasol i wasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion a gomisiynwyd a ddarperir gan bartneriaid sector preifat / trydydd sector ar gyfer ac ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Dylid ei ddarllen yn ychwanegol at Hysbysiad Preifatrwydd Cwsmeriaid cyffredinol y cyngor.
Bydd yr hysbysiad preifatrwydd yn cynnwys:
- Pwrpas dros brosesu
- Gwybodaeth bersonol a gasglwyd a sail gyfreithiol
- Gyda phwy fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth
- Am ba hyd y byddwn yn cadw eich gwybodaeth:
- Eich hawliau gwybodaeth
Pwrpas dros brosesu
Mae’r gwasanaethau yn prosesu gwybodaeth bersonol er mwyn:
- Llunio contractau gyda darparwyr gofal cymdeithasol i oedolion
- Darparu cyngor, canllawiau a hyfforddiant i ddarparwyr gofal cymdeithasol i oedolion er mwyn gwella darpariaeth gofal cymdeithasol ac ansawdd gofal
- Gweinyddu ariannol o ran contractau darparwyr gofal cymdeithasol a bwrsarïau hyfforddiant darparwyr
- Darparu gwiriadau Safe Scheme a gwiriadau Safe & Well
Gwybodaeth bersonol a gasglwyd a sail gyfreithiol
Mae’r gwasanaethau yn prosesu gwybodaeth bersonol, sy’n cynnwys rhai o’r canlynol, ymhlith eraill:
- Manylion personol – e.e. enw / oedran / cyfeiriad / ysgol / a manylion teulu
- Manylion cyswllt – e.e. rhifau ffôn / cyfeiriad e-bost
- Cyfeirnodau Personol – e.e. rhif arholiad/cymhwyster darparwyr hyfforddiant, Rhif Yswiriant Gwladol, Rhif Set Ddata Sylfaenol Cenedlaethol; Rhif Darparwr, Rhif Bwrsari, Rhif Tŷ’r Cwmnïau
- Manylion gwaith
- Manylion ariannol – manylion cyfrif banc yn enwedig unig fasnachwyr ar gyfer taliadau a bwrsari/ariannu hyfforddiant
- Trwyddedau / hawlenni
- Cofnodion o gwynion
- Delweddau gweledol
- Ymddygiad – os yw’n berthnasol i gŵyn
Y sail gyfreithiol dros brosesu’r wybodaeth bersonol hon yw:
- Contract ar gyfer darparu gwasanaethau
- Cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol
- Tasgau a wnaed er budd y cyhoedd neu mewn ymarfer o awdurdod swyddogol
At ddibenion contractio gwasanaethau gofal cymdeithasol a gwasanaethau cefnogaeth a darparu cyngor, canllawiau a chefnogaeth hyfforddiant i’r darparwr gwasanaeth. Mae’r gwasanaeth hefyd yn prosesu gwybodaeth sensitif (categori arbennig), a allai gynnwys rhai o’r canlynol, ymhlith eraill:
- Manylion iechyd corfforol neu iechyd meddwl
- Troseddau (gan gynnwys troseddau honedig), achosion troseddol, canlyniadau a dedfrydau
Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu’r data sensitif (categori arbennig) hwn yw:
- Caniatâd penodol
- Data personol a wnaed yn gyhoeddus gan wrthrych y data
- Sefydlu, ymarfer neu ddiogelu ceisiadau cyfreithiol
Gyda phwy fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth
O bryd i’w gilydd, mae’n bosibl y bydd angen i ni rannu’r wybodaeth bersonol rydych wedi’i rhoi i ni neu rydym wedi’i chasglu amdanoch chi gyda sefydliadau partner. Mae’r rhain yn cynnwys, ond nid yn gyfyngedig i:
- Darparwyr hyfforddiant Gofal Cymdeithasol
- Yr Heddlu
- Skills for Care
- Grwpiau Comisiynu Clinigol
- Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
- Adran Gyfreithiol, Caffael, gwasanaethau Cwynion Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
- Asiantaethau ymchwilio i statws credyd
- Y Comisiwn Ansawdd Gofal
Mae gennym gytundebau rhannu data penodol ar waith gydag asiantaethau lleol ac weithiau mae’n ofynnol dan y gyfraith i ni drosglwyddo eich manylion i drydydd parti, er enghraifft, i atal trosedd.
Caiff gwybodaeth ei rhannu dim ond pan fo wirioneddol angen i’n helpu i ddarparu gwasanaethau effeithiol ac mae’n bosibl y bydd gennych hawl i wrthod. Ni fyddwn yn ei throsglwyddo i unrhyw bartïon eraill oni bai ei bod yn ofynnol dan y gyfraith i ni wneud hynny, neu yn yr holl amgylchiadau rhesymol, bod y datgeliad yn deg a chyfiawn at dibenion prosesu neu ei fod yn destun eithriad diogelu data cyfreithiol.
Am ba hyd y byddwn yn cadw eich gwybodaeth
- 6 mlynedd o atal gwasanaethau i gwsmeriaid ar gyfer cofnodion sy’n ymwneud â chwsmeriaid
- Y flwyddyn ariannol bresennol a 6 mlynedd ariannol ar gyfer hyfforddiant darparwyr gofal cymdeithasol
- Caiff gwybodaeth gytundebol ei chadw am 6-12 mlynedd ar ôl i’r contract ddod i ben
Sylwch: bydd rhai cyfnodau cadw a nodwyd yn destun unrhyw ddaliadau cyfreithiol a roddir dan Ddeddf Ymchwiliadau 2005 a allai fod yn berthnasol i’r wybodaeth a gwrth-wneud cyfnodau cadw safonol.
Eich hawliau gwybodaeth
Mae hawl gennych i gael copi, neu ddisgrifiad, o’r data personol sydd gennym sy’n berthnasol i chi, yn amodol ar gyfyngiadau cyfreithiol. Gweler Sut i gael eich Cofnodion Gwasanaethau Cymdeithasol i weld sut i wneud cais am hyn gan ddefnyddio’r ffurflen.
Gallai fod gennych hawl i gywiro, cyfyngu, gwrthwynebu a dileu eich gwybodaeth bersonol yn dibynnu ar y gwasanaeth a’r sail gyfreithiol. Yn y lle cyntaf, cysylltwch â’r Tîm Mynediad Gwrthrych gan ddefnyddio mynediadpwnc@conwy.gov.uk neu ffonio 01492 575803. Gweler ein hysbysiad preifatrwydd cyffredinol yn www.conwy.gov.uk/preifatrwydd i gael manylion cyswllt pellach ac os oes gennych gŵyn am eich hawliau gwybodaeth