Cyflwyniad:
|
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn Rheolwr Data sydd wedi cofrestru gyda Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.
https://ico.org.uk/ESDWebPages/Entry/Z4738791
|
Y Gwasanaeth a fydd yn prosesu (defnyddio) eich data personol yw:
|
Y Cyngor, yn benodol Y Gwasanaeth Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau .
|
Y rheswm (pwrpas) pam mae angen prosesu’ch data personol yw:
|
Mae’n rhaid i dîm prosiect Ymgynghoriad Gorsaf Trosglwyddo Gwastraff gadw at y gyfraith sy’n gofyn am ymgynghoriad cyn ymgeisio cyn cyflwyno cais cynllunio.
.
|
Y data personol a fydd yn cael ei gasglu a’i brosesu yw:
|
Mae’r wybodaeth rydym yn ei chadw ac yn ei phrosesu ar gyfer y rhai sy’n ymateb i’r arolwg hwn yn cynnwys:
- eich cod post
- eich ystod oedran
- nodweddion gwarchodedig (fel ethnigrwydd, anabledd a rhywioldeb)
Byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth i:
- ddeall effaith y cynllun arfaethedig
- segmentu adborth yn ôl grwpiau demograffig
|
Y sail gyfreithiol dros brosesu’ch data personol yw:
(gweler Sail gyfreithiol i brosesu | Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
|
Bydd y Cyngor yn prosesu eich gwybodaeth yn unol â’n dyletswyddau tasg gyhoeddus.
|
Sut a ble mae’ch data yn cael ei storio:
|
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn defnyddio amryw o wahanol systemau i storio a phrosesu eich data. Mae rhai o’r rhain yn cael eu gwesteio’n fewnol, tra bod eraill yn cael eu gwesteio gan sefydliadau trydydd parti ar sail gwesteiwr cwmwl.
|
Pa mor hir y caiff eich data ei gadw:
|
Byddwn yn cadw eich gwybodaeth bersonol yn unol â’r cyfnodau cadw a gynhwysir ym Mholisïau Cadw Data / Dogfennau’r Cyngor ar gyfer pob maes data a gesglir.
|
Gyda phwy y bydd eich data yn cael ei rannu:
|
Rydym yn gweithio gydag ystod o sefydliadau eraill naill ai i storio gwybodaeth bersonol neu i’n helpu i ddarparu ein gwasanaethau i chi. Mae’n bosibl y byddwn hefyd yn rhannu eich gwybodaeth bersonol os teimlwn bod rheswm da dros wneud hynny, sy’n bwysicach na diogelu eich preifatrwydd. Er enghraifft, efallai y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth er mwyn canfod neu atal trosedd neu dwyll.
Byddwn yn rhannu eich gwybodaeth â:
- Gwasanaethau / Adrannau eraill CBSC at ddibenion materion Gorfodi’r Cyngor lle bod angen.
|
Eich hawliau data:
|
Yn ôl y gyfraith mae gennych amrywiaeth o hawliau dros eich data personol sy’n cynnwys:
- yr hawl i gael gwybod
- yr hawl i gael gweld y data personol yr ydym yn ei gadw amdanoch chi.
- yr hawl i gywiro unrhyw wallau yn y data personol yr ydym yn ei gadw amdanoch chi.
- yr hawl i gael dileu eich data personol pan nad oes ei angen mwyach.
- yr hawl, mewn amgylchiadau cyfyngedig, i gyfyngu ar sut y defnyddir eich data personol.
- yr hawl i wrthwynebu i’r defnydd o’ch data personol.
Yn yr amgylchiadau prin ble rydym yn dibynnu ar gydsyniad fel sail gyfreithiol dros brosesu eich data personol, gallwch dynnu’r cydsyniad hwnnw’n ôl ar unrhyw adeg.
Gweler hefyd Hysbysiad Preifatrwydd Llawn CBSC:
Hysbysiad Preifatrwydd Llawn Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Hysbysiadau Preifatrwydd Eraill CBSC –
Hysbysiad Preifatrwydd Refeniw a Budd-daliadau - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Gwasanaethau Cyllid Corfforaethol – Hysbysiad preifatrwydd gwasanaeth/swyddogaeth penodol - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
|
Cyswllt gwasanaeth
|
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r manylion yn y ddogfen hon, cysylltwch â:
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Yr Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau, Blwch Post 1, Conwy, LL30 9GN neu e-bost: affch@conwy.gov.uk
|
Uned Llywodraethu Gwybodaeth
|
Os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill am sut y defnyddir eich data personol neu os ydych yn dymuno arfer unrhyw un o’ch hawliau y cyfeirir atynt uchod, cysylltwch â:
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Uned Llywodraethu Gwybodaeth
Blwch Post 1 Conwy LL30 9GN
uned.llyw-gwyb@conwy.gov.uk
01492 574016/577215
Os ydych yn credu nad ydym wedi llwyddo i drin a rheoli eich data personol yn briodol mae gennych hawl i apelio i:
Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth - Cymru 2il Lawr Churchill House Ffordd Churchill Caerdydd CF10 2HH
E-bost: wales@ico.org.uk
|