Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Helpu Cleient Pryderus


Summary (optional)
start content

Dyddiadau

  • 2024:  13 Mehefin
  • 2025:  20 Chwefror

Manylion y cwrs

  • Amser:  9:30am tan 4:30pm
  • Lleoliad:  Coed Pella, Bae Colwyn
  • Gwasanaethau targed:  Trawsffurfio Busnes, Lles Cymunedol, Tîm Anabledd, Cefnogaeth ac Ymyrraeth Teulu, Plant sy'n derbyn Gofal, Pobl Hŷn ac Atebion Iechyd Cymru, Safonau Ansawdd, Tîm Pobl Ddiamddiffyn, Gwasanaeth Cyfiawnder yr Ifanc.
  • Grŵp targed:  Pob ymarferydd sy'n cynnal ymyrraethau gydag oedolion a phobl ifanc.

Nodau ac amcanion y cwrs

Nid bwriad y cwrs byr yma yw cynnig therapi na mynd i’r afael â gwraidd yr achos, ond bydd yn arfogi’r cyfranogwyr gyda thechnegau syml i helpu’r rhai rydych yn gweithio gyda nhw i reoli eu pryder fel y gallant lwyddo i gyrraedd eu hamcanion.

Er mor wych yw’r ymennydd, nid yw’n gallu gwahaniaethu rhwng perygl go iawn sy’n digwydd i rywun, a meddyliau brawychus. Mae rhan isaf yr ymennydd yn synhwyro perygl, gan gychwyn cyfres o ymatebion seicolegol a byddwn yn dechrau teimlo ofn.

Mae pawb yn teimlo pryder ar adegau, ond i rai mae’n fwy cyson, yn fwy difrifol ac yn effeithio ar eu bywyd bob dydd.

Cynnwys y cwrs:

  • Dod i ddeall pam mae pryder mor gyffredin yn ein grŵp o gleientiaid.
  • Dysgu am niwroffisioleg pryder.
  • Cael trosolwg o ddulliau cyfoes o’r top i lawr, o’r gwaelod i fyny er mwyn rheoli pryder.
  • Gweld sut mae osgoi’r mater yn gwaethygu pryder.
  • Defnyddio dulliau gwybyddol o helpu pobl gyda’u meddyliau.
  • Defnyddio dulliau corfforol i helpu pobl leddfu'r teimlad.
  • Gallu helpu cleientiaid i greu eu pecyn cymorth cyntaf emosiynol eu hunain.

Am wybodaeth bellach, neu os ydych wedi archebu lle ar y cwrs a heb dderbyn hysbysiad i fynychu cysylltwch â’r Tîm Gweinyddol Datblygu’r Gweithlu a Dysgu.  Peidiwch â mynychu unrhyw gwrs oni bai’ch bod wedi derbyn hysbysiad yn cadarnhau bod lle i chi oherwydd mae’n bosibl y bydd y digwyddiad yn llawn.

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content