Manylion y cwrs:
Dyluniwyd y cwrs hwn i gyflwyno staff i ddyfeisiau GPS y gellir eu darparu i bobl drwy Teleofal Conwy i helpu gyda chefnogi eu diogelwch a’u hannibyniaeth. Efallai bydd gan fynychwyr sefyllfaoedd penodol mewn golwg yr hoffant ddod gyda nhw i’r hyfforddiant.
Dyddiad | Amser | Lleoliad | Hyfforddwr | Grŵp targed |
20 Ionawr 2021 |
2pm - 4.00pm |
Zoom |
Sioned Davies OTA Telecare a Lindsay Duncalf OT |
Gwasanaethau Targed – Lles Cymunedol, Tîm Anableddau, Pobl Hŷn ac Atebion Iechyd Cymru, Tîm Pobl Ddiamddiffyn Grŵp Targed – Pob aelod o Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy sy’n dymuno dysgu am ddyfeisiadau GPS. Byddai’n addas ar gyfer dechreuwyr newydd neu staff nad ydynt yn teimlo’n hyderus mewn cyfeirio pobl at GPS i gefnogi cleientiaid. |
21 Ionawr 2021 |
10.00am - 12.00pm |

Nodau ac amcanion y cwrs:
Yn dilyn y sesiwn, bydd staff yn gallu :-
- Nodi rhesymeg a manteision defnyddio dyfeisiau GPS.
- Nodi’r unigolion y byddai'r cyfarpar fwyaf buddiol iddynt ac amgylchiadau lle fyddai'n amhriodol.
- Cymhwyso datrysiadau GPS i’r risg cysylltiedig.
- Nodi nodweddion allweddol a manteision GPS.
- Deall sut i gyfeirio rhywun at Teleofal Conwy am asesiad GPS a chwblhau ffurflen atgyfeirio yn gywir.
Am wybodaeth bellach, neu os ydych wedi archebu lle ar y cwrs a heb dderbyn hysbysiad i fynd ar y cwrs cysylltwch â’r Tîm Gweinyddol Datblygu’r Gweithlu a Dysgu. Peidiwch â mynd ar unrhyw gwrs oni bai eich bod wedi derbyn hysbysiad yn cadarnhau bod lle i chi oherwydd mae’n bosibl y bydd y digwyddiad yn llawn.