Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Cyngor Mynediad i Wybodaeth Hysbysiadau Preifatrwydd Adolygiad o Ddosbarthiadau Etholiadol a Mannau Pleidleisio 2023

Adolygiad o Ddosbarthiadau Etholiadol a Mannau Pleidleisio 2023


Summary (optional)
start content

Mae Erthygl 13 Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data yn ei gwneud yn ofynnol darparu Hysbysiad Preifatrwydd i unigolion i’w hysbysu o’r wybodaeth isod mewn perthynas â phrosesu eu data personol. Defnyddiwch y templed hwn i gwblhau gwybodaeth hysbysiad preifatrwydd eich gwasanaeth / adran, ac yna gellir ei gyfieithu a’i drawsgrifio cyn ei gyhoeddi.

Darperir y wybodaeth isod mewn coch fel canllaw yn unig ar yr hyn y dylai / gallai’r adain ei gynnwys, ac felly dylid ysgrifennu dros hyn. Os ydych yn ansicr, cysylltwch â’r Uned Llywodraethu Gwybodaeth i gael cyngor / cymorth.

 Cyflwyniad:

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn Rheolwr Data ac wedi’i gofrestru gyda Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.

https://ico.org.uk/ESDWebPages/Entry/Z4738791

Y Gwasanaeth fydd yn prosesu (defnyddio) eich data personol fydd:

Gwasanaethau Etholiadol

Mae’n rhaid i ni brosesu eich data personol er mwyn:

Mae’n ofyniad gan y Comisiwn Etholiadol bod Conwy’n gwneud Adolygiad o Ddosbarthiadau Etholiadol a Mannau Pleidleisio bob 5 mlynedd, ac mae’n ofyniad ein bod yn cyhoeddi’r holl ohebiaeth a chyflwyniadau a anfonwyd i’r Swyddog Canlyniadau Gweithredol mewn perthynas â’r adolygiad, a fydd yn cynnwys enw’r gohebydd.

Y data personol a gaiff ei gasglu a’i brosesu yw:

Enwau, sefydliad, cyfeiriad.

Y sylfaen gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data personol yw:

(gweler Sail gyfreithiol i brosesu | Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Beth yw’r sail gyfreithiol i’r prosesu?

Mae’r seiliau cyfreithiol ar gyfer prosesu data wedi eu nodi yn Erthygl 6 Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data. Rhaid i un o’r rhain o leiaf fod yn berthnasol bob tro y byddwch chi’n prosesu data personol:

(a) Caniatâd: mae’r unigolyn wedi rhoi caniatâd clir i chi brosesu ei ddata personol at ddiben penodol.

(c) Rhwymedigaeth gyfreithiol: mae’r prosesu yn angenrheidiol er mwyn cydymffurfio â’r gyfraith (ni chynhwysir rhwymedigaethau contract).

(e) Tasg gyhoeddus: mae angen y prosesu er mwyn i chi allu cyflawni tasg er budd y cyhoedd neu arfer eich swyddogaethau swyddogol, ac mae gan y dasg neu’r swyddogaeth sail gyfreithiol glir.

(f) Buddiannau dilys: mae angen y prosesu ar gyfer eich buddiannau dilys neu fuddiannau dilys trydydd parti, oni bai fod rheswm da dros ddiogelu data personol yr unigolyn sy’n cael blaenoriaeth dros y buddiannau dilys hynny.

Manylion unrhyw ddata categori arbennig a gasglwyd ac a broseswyd (os o gwbl):

Tarddiad hiliol neu ethnig, barn wleidyddol, credoau crefyddol neu athronyddol, neu aelodaeth o undeb llafur, prosesu data genetig, data biometrig at ddibenion adnabod bod dynol yn unigryw, data yn ymwneud ag iechyd neu ddata am fywyd rhywiol neu gyfeiriadedd rhywiol bod dynol. Dim.

Y sylfaen gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data categori arbennig yw:

(gweler Data categori arbennig | Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth)

Beth yw’r sail gyfreithiol i’r prosesu?

Mae’r seiliau cyfreithiol ar gyfer prosesu data categori arbennig wedi eu nodi yn Erthygl 6 Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data. Rhaid i un o’r rhain o leiaf fod yn berthnasol bob tro y byddwch chi’n prosesu’r data hwn:

Amherthnasol

Os ydych yn dibynnu ar amodau (b), (h), (i) neu (j), yr ydych hefyd angen bodloni’r amod cysylltiedig yng nghyfraith y DU, a nodir yn Rhan 1 Atodlen 1 Deddf Diogelu Data 2018.

A fydd yn amherthnasol os na phrosesir data categori arbennig?

Sut/lle caiff eich data ei storio:

A yw’n cael ei gadw / cynnal yn fewnol? Neu gan 3ydd parti (h.y. cael ei gynnal mewn cwmwl).

Yn fewnol.

Am ba mor hir caiff eich data ei gadw:

Beth mae eich Cofrestr Cadw Cofnodion yn ei nodi?

5 mlynedd – hyd nes y gwneir yr adolygiad nesaf.

Gyda phwy y byddwn yn rhannu eich data:

Yn fewnol gyda Gwasanaethau eraill? Pwy?

Yn allanol gyda sefydliadau partner eraill (h.y. Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi, Adran Gwaith a Phensiynau, yr Heddlu, Awdurdodau Lleol eraill)?

Ni fydd yn cael ei rannu, ond nodir enw yn nogfen yr adroddiad cyhoeddus ynghyd â sylwadau’r derbynnydd. 

Eich hawliau data:

Yn ôl y gyfraith mae gennych amrywiaeth o hawliau dros eich data personol sy’n cynnwys:

  • yr hawl i gael gwybod
  • yr hawl i gael gweld y data personol yr ydym yn ei gadw amdanoch chi
  • yr hawl i gywiro unrhyw wallau yn y data personol sydd gennym amdanoch
  • yr hawl i gael dileu eich data personol pan nad oes ei angen mwyach
  • yr hawl, mewn amgylchiadau cyfyngedig, i gyfyngu ar sut y defnyddir eich data personol
  • yr hawl i wrthwynebu i’r defnydd o’ch data personol.


Yn yr amgylchiadau prin lle’r ydym yn dibynnu ar gydsyniad fel sail gyfreithiol i brosesu eich data personol, gellwch dynnu’r cydsyniad hwnnw’n ôl ar unrhyw adeg.

Gweler Hysbysiad Preifatrwydd Llawn CBSC hefyd:

Hysbysiad Preifatrwydd Llawn Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy – Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Unrhyw wybodaeth berthnasol arall (os yw’n ofynnol):

Darparwch unrhyw wybodaeth arall yr ystyrir ei bod yn berthnasol i sicrhau ‘tegwch’.

Cyswllt gwasanaeth:

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr uchod, cysylltwch ag:

etholiadol@conwy.gov.uk

Uned Llywodraethu Gwybodaeth:

Os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill am sut y defnyddir eich data personol neu os ydych yn dymuno arfer unrhyw un o’ch hawliau y cyfeirir atynt uchod, cysylltwch â’r canlynol:

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Uned Llywodraethu Gwybodaeth
Blwch Post 1,
Conwy,
LL30 9GN

E-bost: uned.llyw-gwyb@conwy.gov.uk
Ffon: 01492 577215

Os ydych yn credu nad ydym wedi llwyddo i drin a rheoli eich data personol yn briodol mae gennych hawl i apelio i:

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth – Cymru, 2il Lawr
Churchill House
Ffordd Churchill
Caerdydd
CF10 2HH

E-bost: wales@ico.org.uk

 

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content